
Prosiect Ynys Sgomer, 2018
Roedd ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol yn ôl ar Ynys Sgomer yr wythnos ddiwethaf, yn cloddio ffos fach yn Well Meadow ger Island Farm yng nghanol yr ynys. Mae’r ymchwiliad diweddaraf hwn yn rhan o Brosiect Ynys Sgomer, a ddechreuodd yn 2011 mewn cydweithrediad â Phrifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerdydd. Dyma ein 4ydd cloddiad ar yr ynys.
Mewn tywydd bendigedig, ein nod oedd cloddio nodwedd anarferol a oedd wedi’i nodi yn 2016 yn ystod ein harolwg geoffisegol i ddarganfod archaeoleg a oedd ynghudd o dan wyneb y caeau hanesyddol. Fe agorwyd ffos 6m wrth 2m dros y nodwedd hon, a’r canlyniad? Wel, dydych chi bob amser yn darganfod aur! Roedd hon yn nodwedd naturiol, sef band o isbridd graeanog wedi’i bacio’n galed yr oedd ei arwyddnod magnetig uwch wedi cael ei ganfod yn yr arolwg gradiomedr. Ond ni fu’r holl gloddio yn ofer gan i ni wneud rhai darganfyddiadau, gan gynnwys darnau o grochenwaith gwydrog a gaiff eu hanfon i’w dadansoddi er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ffermio ar yr ynys yn ystod y cyfnod hanesyddol.
Gan fod y ffos yn agos at brif lwybr yr ynys, roedd y cyhoedd yn gallu gweld beth oedd yn digwydd, a hefyd llwyddwyd i drefnu taith gerdded archaeolegol i wirfoddolwyr ac ymwelwyr.
Hoffem ddiolch i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, Pwyllgor Ymgynghorol yr Ynysoedd a Wardeiniaid Sgomer am roi caniatâd i weithio ar yr ynys hudolus hon.
▶️ Taith Gerdded Archaeolegol ar Ynys Sgomer
▶️ Dehongli ac ymweld ag archaeoleg Ynys Sgomer
▶️ Discovering the Archaeology of Skomer & Grassholm Bellach ar gael ar Periscope
10/02/2018
Leave a Reply