
Archaeoleg Ucheldir Gwent – The Archaeology of Upland Gwent
Ffurfiwyd cymeriad arbennig cymoedd y de a’u cymunedau gan gyfuniad o’u tirwedd a’u hanes, ac yn y blaenau cewch drysorfa o henebion archaeolegol sy’n dangos sut mae pobl wedi byw, wedi gweithio ac wedi amaethu yno o’r oesoedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae’r llyfr hwn gan yr awdur lleol nodedig Frank Olding yn mynd â’r darllenydd ar daith o offer fflint a bryngaerau cynhanes ymlaen i wrthryfel y Siartwyr a diwydiannau’r ugeinfed ganrif. Mae’n gyforiog o luniau a dynnwyd ar lawr gwlad ac o’r awyr, ac o fapiau, cynlluniau a lluniau hanesyddol. Cewch hefyd eitemau nodwedd sy’n cynnig mewnwelediadau gan arbenigwyr. Drwy hynny i gyd mae’r llyfr yn mawrygu archaeoleg a hanes blaenau Gwent a’r ardaloedd cyfagos.
Prynu – Archaeoleg Ucheldir Gwent – The Archaeology of Upland Gwent
Siop Lyfrau
Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.
Author | Frank Olding, 2016 |
Cover | Softback |
Size | 216 x 229mm |
Pages | 160 |
Illustrations | 91 |
ISBN | 978-1-871184-57-0 |
Price | £14.95 |
Postage | £0.00 |