Cymru Hanesyddol o’r Awyr – Historic Wales from the Air

Mewn 220 a rhagor o luniau gwych mae’r llyfr hwn yn ymchwilio i dirweddau a hanes Cymru. Maent yn dyddio o’r 1920au hyd heddiw ac o waith cynharaf awyrlunwyr preifat a milwrol i ddarganfyddiadau diweddaraf archaeolegwyr-o’r-awyr. Mae’r lluniau wedi’u dewis o gasgliad mwyaf y wlad o awyrluniau, sef rhan o archifau enfawr Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, ac mae llawer ohonynt heb eu cyhoeddi erioed o’r blaen. Yn eu holl gyfoeth a’u hamrywiaeth mae’r lluniau eithriadol o ddiddorol hyn yn adrodd hynt a helynt ein gwlad.

 

Siop Lyfrau

Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.

I archebu ein teitlau, cysylltwch â:

Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU

Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
neu e-bostiwch yr adran Gwerthu Llyfrau gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad

AuthorToby Driver, Oliver Davis, 2012
CoverSoftback
Size296 x 265mm
Pages236
Illustrations192
ISBN978-1-871184-44-0
Price£19.95
Postage£0.00

Tweets