
Guns Across the Severn: Victorian Fortifications of Glamorgan
Yn Guns Across the Severn ceir astudiaeth fanwl gan staff y Comisiwn Brenhinol o’r prif amddiffynfeydd a godwyd ym Morgannwg yn ystod oes Victoria, sef ar Ynys y Mwmbwls ger Abertawe, ar Drwyn Larnog rhwng Caerdydd a’r Barri, ac ar Ynys Echni ym Môr Hafren. Darlunnir y disgrifiadau â chynlluniau gwreiddiol a ffotograffau. Yn y rhagymadrodd mae Andrew Saunders yn gosod y safleoedd yng nghyd-destun strategaethau amddiffyn ehangach yr oes yn y Deyrnas Unedig.
Siop Lyfrau
Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.
I archebu ein teitlau, cysylltwch â:
Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
neu e-bostiwch yr adran Gwerthu Llyfrau gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad
Author | A Saunders, C.J. Spurgeon, H.J. Thomas, D.J. Roberts, 2001 |
Cover | Softback |
Size | 200 x 245mm |
Pages | 48 |
Illustrations | 27 |
ISBN | 978-1-871184-25-8 |
Price | £5.00 |
Postage | £0.00 |