
Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air
Mae tirweddau hanesyddol Sir Benfro gyda’r mwyaf amrywiol a diddorol ym Mhrydain. Ar hyd glannau trofaus y sir hon ym mhen draw gorllewin Cymru, sir sydd â dyfroedd Môr Iwerddon ar dair ochr iddi, y ceir olion rhai o’r aneddiadau hynaf ym Mhrydain. Mae cannoedd o safleoedd hanesyddol Sir Benfro o’r golwg am eu bod ar dir preifat, ar gopaon a chlogwyni nad oes modd eu cyrraedd, neu wedi’u claddu gan ganrifoedd o droi’r tir. O’r awyr yn unig y mae gwerthfawrogi holl hyd a lled treftadaeth gyfoethog y sir. Mae’r persbectif newydd hwn yn dadlennu henebion cudd ac yn fodd i ni gael cipolwg unigryw ar y rhai mwy cyfarwydd. Yn y llyfr newydd a phwysig hwn ceir llu o awyrluniau diweddar, awyrluniau hanesyddol o gyfnod y ddau Ryfel Byd, arolygon a mapiau archaeolegol, adluniadau a lluniau ‘rhithwir’ – sydd heb eu gweld o’r blaen – o dirweddau archaeolegol y sir, ac mae’n adrodd stori Sir Benfro a’i phobl o’r cyfnodau cynharaf hyd y gorffennol diweddar iawn. Fe welwch chi awyrluniau’r Comisiwn Brenhinol o Sir Benfro bob mis yn y cylchgrawn ‘Pembrokeshire Life’.
Siop Lyfrau
Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.
I archebu ein teitlau, cysylltwch â:
Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
neu e-bostiwch yr adran Gwerthu Llyfrau gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad
Author | T.G. Driver, 2007 |
Cover | Softback & Hardback |
Size | 245 x 255mm |
Pages | 286 |
Illustrations | 379 |
ISBN | 978-1-87118-429-7 Hardback - 978-1-87118-433-4 Softback |
Price | £19.95 |
Postage | £0.00 |