
Trysorau Cudd: Darganfod Treftadaeth Cymru
Yn Trysorau Cudd dangosir sut y mae treftadaeth Cymru wedi’i hailddarganfod a’i hail-ddehongli yn ystod canrif o ymchwil. Ceir ynddo gant o draethodau ac amryw byd o luniau, ynghyd â rhagymadrodd cryno i bob cyfnod, a’r cyfan yn darlunio safleoedd, adeiladau a henebion sy’n cyfleu hanes Cymru o gyfnod cynhanes hyd heddiw. Bydd y llyfr hardd hwn yn gydymaith gwybodus i bawb sy’n ymddiddori ym mywyd a threftadaeth Cymru, boed hwy’n byw yng Nghymru, yn ymweld â hi neu’n ei hedmygu o bell.
Yn fuan ar ôl cyhoeddi Trysorau Cudd, fe ddarlledir ar BBC2 Cymru, o fis Tachwedd 2008 ymlaen, gyfres deledu mewn pum rhan gan y BBC o dan y teitl Hidden Histories. Bydd hi’n dilyn arbenigwyr y Comisiwn Brenhinol wrth iddynt ddadlennu dehongliadau newydd o dreftadaeth Cymru.
Siop Lyfrau
Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.
I archebu ein teitlau, cysylltwch â:
Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
neu e-bostiwch yr adran Gwerthu Llyfrau gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad
Author | A.P. Wakelin, golygydd, R.A. Griffiths, 2008 |
Cover | Hardback |
Size | 248 x 276mm |
Pages | 328 |
Illustrations | 500 |
ISBN | 978-1-871184-36-5 |
Price | £19.95 |
Postage | £0.00 |