
Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes (eBook)
Mae’r teitl hwn allan o brint bellach, ond mae ar gael fel eLyfr.
Prynwch yr eLyfr Nawr Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes at Google Play.
Mae’r 200 o luniau yn y llyfr hwn wedi’u dewis o archif helaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac fe ânt â ni i mewn i gartrefi Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Cynigiant gipolwg prin ar yr hyn a geid y tu ôl i ddrysau caeedig, o du mewn y bythynnod distadlaf a thai teras y trefi ymlaen i ystafelloedd hynod foethus y plastai mawr. Drwyddynt cawn olwg unigryw ar y ffyrdd y mae pobl wedi byw eu bywydau beunyddiol yng Nghymru.
Siop Lyfrau
Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.
Mae’r prisiau ar gyfer teitlau sydd mewn print yn cynnwys cludiant a phacio yn y DU. Bydd angen i gwsmeriaid tramor gysylltu â ni i gael prisiau cludiant.
I archebu ein teitlau, cysylltwch â:
Gwerthu Llyfrau
CBHC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 621200
Ffacs: 01970 6217701
neu e-bostiwch yr adran Gwerthu Llyfrau gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad
Author | Rachael Barnwell, Richard Suggett, 2012 |
Cover | Softback |
Size | 244 x 270mm |
Pages | 252 |
Illustrations | 200 |
ISBN | 978-1-871184-46-4 |
Price | £14.99 |
Postage | £0.00 |