Pymtheg prosiect treftadaeth yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru

Mae pymtheg enghraifft o waith treftadaeth penigamp wedi’u dewis ar gyfer Gwobr Angel Treftadaeth gan banel o feirniaid dan arweiniad y Farwnes Kay Andrews. Nod y gwobrau, a noddir gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber, yw dathlu gwaith gwirfoddolwyr, hyfforddeion, prentisiaid, pobl ifainc a gweithwyr treftadaeth proffesiynol sy’n atgyweirio neu’n achub adeiladau hanesyddol neu’n gwneud darganfyddiadau newydd.

Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifainc

  • Ysgol Gynradd Thornhill, Caerdydd
  • Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr
  • Panel Ieuenctid Treftadaeth Ddisylw – Ceredigion Gyfyngedig

Yn y categori ‘Pobl Ifainc’, mae plant Ysgol Gynradd Thornhill, Caerdydd, wedi cyrraedd y rhestr fer am eu Cantata’r Cadoediad, sioe gerdd a ysgrifenasant i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, tra bo disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr, ar y rhestr fer am eu hymchwil i anrhydeddu cyn-ddisgyblion a gollodd eu bywydau yn yr un rhyfel, ac mae Panel Ieuenctid Treftadaeth Ddisylw – Ceredigion Gyfyngedig wedi cofnodi hanes Llawrcwmbach, ffermdy traddodiadol yn yr ucheldiroedd.

Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth

  • Rachael Cochrane a Liam Davies, Camlas Mynwy a Brycheiniog
  • Matthew Roberts a Brett Burnell, Sain Ffagan
  • Hugh Haley, Yr Ysgwrn

Y rheiny sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr i Brentis neu Grefftwr yw Rachael Cochrane a Liam Davies am eu gwaith ar adfer Traphont Ddŵr Brynich dros afon Wysg ar Gamlas Mynwy a Brycheiniog; Matthew Roberts a Brett Burnell am eu gwaith yn Sain Ffagan ar adeiladu Llys Llywelyn, neuadd ganoloesol sydd wedi’i hailgreu ar sail olion Llys Rhosyr, neuadd Llywelyn Fawr ger Niwbwrch ar Ynys Môn, a Hugh Haley, cadwraethwr dodrefn, am ei waith adfer ar gasgliad Hedd Wyn o gadeiriau barddol, gan gynnwys Y Gadair Ddu.

Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth

  • Grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig
  • Byd Coll y Capel Cymreig / The Lost World of the Welsh Chapel
  • Archif Menywod Cymru

Yn y categori ymchwil, mae’r rhestr fer yn cynnwys y grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig y mae ei wirfoddolwyr yn trawsnewid ein gwybodaeth o dai canoloesol yng Nghymru; prosiect Byd Coll y Capel Cymreig sydd wedi gwneud cofnod ffotograffig o oddeutu 5,000 o gapeli; ac Archif Menywod Cymru, archif gyfoethog o eitemau yn ymwneud â hanes menywod, gan gynnwys profiadau menywod a fu’n gweithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu rhwng 1945 a 1975.

Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol (ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m)

  • Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
  • Insole Court, Caerdydd
  • Plas Kynaston, Cefn Mawr, Wrecsam

Y tri phrosiect adfer adeilad (llai na £5m) ar y rhestr fer yw Yr Ysgwrn, cartref y bardd adnabyddus Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn fel y’i hadwaenir fel rheol; Insole Court, hen gartref un o deuluoedd masnach lo pwysicaf Caerdydd, a achubwyd drwy ymdrechion y gymuned; a Phlas Kynaston, tŷ Sioraidd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd wedi’i droi’n fflatiau un llofft isel eu pris i helpu i ateb y galw lleol am dai.

Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr (ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m)

  • Sain Ffagan, Caerdydd
  • Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe
  • Castell Aberteifi, Ceredigion

Yn y categori ar gyfer prosiectau sy’n costio mwy na £5m y mae’r ailddatblygiad £30m yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, a Chastell Aberteifi.

Cyhoeddir enillwyr pob categori yn y seremoni wobrwyo yng Nghastell Caerffili ar Ddydd Iau 8 Tachwedd. Yna bydd y pum enillydd o bob categori yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo yn Llundain ar 27 Tachwedd lle dewisir yr enillydd cyffredinol o blith holl enillwyr Gwobrau Angel yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Meddai Andrew Lloyd Webber, ‘Rydw i’n edmygu pawb sy’n ymgeisio am y Gwobrau Angel ac yn tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud i achub a chynnal ein treftadaeth’, a nododd y Farwnes Andrews ‘Roedd gan y beirniaid waith anodd iawn yn dewis tri yn unig o bob categori oherwydd yr angerdd, medrusrwydd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb a enwebwyd ar gyfer gwobr’.

 

Y DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

Cynllun gwobrau Cymreig newydd, sy’n cael ei noddi gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber, yw Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.

Ynghylch Sefydliad Andrew Lloyd Webber

Cafodd Sefydliad Andrew Lloyd Webber ei sefydlu gan Andrew ym 1992 i hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth er budd y cyhoedd; ers y dechrau Andrew sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer gweithgareddau elusennol y Sefydliad. Yn 2010, fe ddechreuodd y Sefydliad raglen rhoi grantiau ac erbyn hyn mae wedi dyfarnu grantiau gwerth mwy na £19.5 miliwn i hybu hyfforddiant a datblygiad personol o safon uchel ac i gefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gyfoethogi ansawdd bywyd unigolion a chymunedau lleol. Rhai grantiau sylweddol a roddwyd yw £3.5m i’r Arts Educational Schools, Llundain i greu theatr broffesiynol â’r cyfleusterau diweddaraf, £2.4m i’r Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth mewn Ysgolion Uwchradd, £1m i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, $1.3m i’r American Theatre Wing, a mwy na £350,000 bob blwyddyn i ariannu 30 ysgoloriaeth yn y celfyddydau perfformio ar gyfer myfyrwyr dawnus sydd mewn angen ariannol.  http://www.andrewlloydwebberfoundation.com/

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n gweinyddu’r Gwobrau yng Nghymru ar ran y Grŵp Llywio Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.

Mae’r grŵp llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau Cymreig, gan gynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain Cymru, y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, Glandŵr Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Y beirniaid yw:

  • Y Farwnes Kay Andrews, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.
  • Cefyn Burgess, y dylunydd tecstilau ac arlunydd byd-enwog sy’n adnabyddus am ei baentiadau o gapeli Cymreig.
  • Andrew Teilo, yr actor sy’n chwarae rhan Hywel Llywelyn ar Pobol y Cwm, yr opera sebon sy’n cael ei darlledu ar S4C.
  • Jamie Davies, aelod o Bwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru ac un o ymddiriedolwyr Amgueddfa Forwrol Llŷn.

Bydd enwau enillwyr y pum categori yn cael eu cyhoeddi yn y Seremoni Wobrwyo. Bydd Rhys Mwyn (cyflwynydd ar BBC Radio Cymru, blogiwr ac archaeolegydd, a chyn-ganwr gyda’r band Cymraeg ‘Anhrefn’) yn cyflwyno Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru yng Nghastell Caerffili ar Ddydd Iau 8 Tachwedd.

Y pum categori yw:

  • Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifainc
  • Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth
  • Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth
  • Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m
  • Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m

Delweddau:
Lluniau 1 a 2
Insloe Court, Caerdydd cyn ac ar ôl cael ei adfer gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Insole Court.

Lluniau 3 a 4
Plas Kynaston, Wrecsam sydd wedi’i droi’n fflatiau i helpu i ateb y galw lleol am dai gan yr Ymddiriedolaeth Sioraidd Gymreig.

Llun 5
Rachael Cochrane, prentis gyda Glandŵr Cymru, wrthi’n adfer Traphont Ddŵr Brynich, ger Aberhonddu.

Llun 6
Castell Caerffili, lleoliad Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru ar Ddydd Iau 8 Tachwedd, 2018.

 

Mae rhagor o luniau ar gael

Manylion cysylltu:
Angharad Williams, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 01970 621 237,    angharad.williams@cbhc.gov.uk

 

Mae’r datganiad i’w wasg hwn ar gael yn Saesneg hefyd.
This press release is also available in English.

 

1.

2.

3.

4.

5.

6.

09/09/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x