Rhai o lannau anhysbys Dewi

Mae pawb yng Nghymru yn gwybod pwy yw’r Dewi yn enw Tyddewi, ac mai wedi cysegru iddo ef y mae Llanddewi Ysgyryd a Llanddewi Brefi, ond mae rhai o lannau Dewi efallai ychydig yn llai hysbys na’r rhain. Wyddoch chi am Landdewi yn Heiob er enghraifft?

Enw Saesneg y pentref yw Heyope, ond cafodd ei gofnodi fel Llan ddewi hiob ym 1570 ac fel Llanddewi ym 1699. Mae Llanddewi ym mro Gŵyr yn cael ei alw felly hyd heddiw, ac mae’r enw’n dyddio yn ôl hyd at o leiaf 1210, pan y cafodd ei gofnodi fel Landewi in Goer. Ceir hefyd Landewy in Gower county ym 1281, Landewy ym 1284 a 1323 a Llan ddewi ym 1570.

Neu beth am Landdewi Ystradenni? Mae’r enw yn dyddio yn ôl hyd y ddeuddegfed ganrif, pan gafodd ei gofnodi fel Thlandewy, a cheir Llan ddewi ystrad yni ym 1570, a Lhandewi ym 1699. Bid a fo am hynny, ceir enw arno sydd efallai’n hŷn, sef Ystrad nynhid, heb sôn am Ddewi Sant.

I ddarganfod mwy am enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Dewi Sant, chwiliwch ym mynegai ein Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Llefydd

03/02/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x