Rhai o’m hoff gerrig cerfiedig o’r Oesoedd Canol cynnar yng Nghymru gan yr Athro Nancy Edwards, Cadeirydd y Comisiynwyr, CBHC

Rydym yn gwybod am fwy na 500 o gerrig cerfiedig o’r Oesoedd Canol cynnar yng Nghymru erbyn hyn. Mae bron y cyfan ohonynt yn gerrig Cristnogol, sy’n tystio i dröedigaeth i’r ffydd, sefydlu mynachlogydd grymus, a chladdu mewn mynwentydd a oedd yn gysylltiedig â chymunedau ffermio lleol.

Mae’r cerrig coffa cynharaf, wedi’u harysgrifennu yn Lladin neu weithiau’r wyddor ogam Hen Wyddeleg, yn perthyn i’r bumed, chweched a seithfed ganrif OC. Aeth y rhain allan o ffasiwn oddeutu OC600: câi beddau eu nodi gan gerrig syml gyda chroesau wedyn ac mae arysgrifau sy’n rhoi enw’r person a gladdwyd yn brin.

O ddiwedd yr wythfed ganrif ymlaen, wrth i’r Eglwys fynd yn fwy pwerus, câi croesau carreg addurnedig mawr eu codi hefyd, y rhan fwyaf ohonynt ar safleoedd mynachaidd, ond rhai yng nghefn gwlad.

O ddiwedd yr ugeinfed ganrif i ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, fe dynnodd Iain N. Wright, ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol bryd hynny, gyfres o ffotograffau du a gwyn penigamp sy’n cofnodi’r henebion hyn ac maen nhw bellach yn ffurfio rhan o Gasgliad y Cyhoeddiad Corpus of Early Medieval Inscribed Stones. Cafodd llawer ohonynt eu cyhoeddi yn nhair cyfrol A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru ar y cyd â’r Comisiwn Brenhinol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru (2007-2013).

Mae gen i ddiddordeb mawr yng ngherrig arysgrifenedig a cherfluniedig yr Oesoedd Canol cynnar yng Nghymru ac rydw i wedi dewis tri ffotograff o rai o’m hoff gerrig cerfiedig. Mae’n anodd iawn gweld y gwaith cerfio yn aml oherwydd hindreulio, felly tynnwyd llawer o’r lluniau yn y nos gan ddefnyddio goleuo arbennig.

Carreg Arysgrifenedig Bridell

Mae’r garreg goffa hon o’r bumed ganrif yn sefyll ym mynwent Eglwys Dewi Sant, Bridell, Sir Benfro. Defnyddiwyd yr wyddor ogam Hen Wyddeleg i wneud yr arysgrif. Mae pob llythyren wedi’i ffurfio o un neu fwy o strociau wedi’u cerfio ar draws ongl y garreg o’r gwaelod i’r brig. Mae’r arysgrif yn darllen Nettasagri maqi mucoi Briaci ac mae’n coffáu dyn o’r enw Nettasagri a oedd yn fab i garennydd y Briaci. Byddai wedi nodi lleoliad ei fedd. Mae’r arysgrif yn bwysig gan ei bod yn un o grŵp yn ne-orllewin Cymru sy’n dangos bod pobl o Iwerddon wedi ymsefydlu yma ar ddechrau’r bumed ganrif. Hyd at tua OC600 roedd Gwyddeleg yn parhau i gael ei siarad mewn rhai rhannau o Gymru ochr yn ochr â Brythoneg a Lladin. Ychwanegwyd y groes yn y cylch yn ddiweddarach a’i phwrpas mae’n debyg oedd Cristioneiddio’r heneb ac, efallai, y person a goffeid.

Carreg Tywyn

Mae’r heneb hon yn dyddio’n ôl i’r nawfed ganrif. Heddiw mae’n sefyll yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Gwynedd, a oedd yn sefydliad crefyddol pwysig yn yr Oesoedd Canol cynnar. Safai’r garreg yn wreiddiol yn y fynwent a chafodd ei chofnodi gyntaf gan Edward Lhuyd, y polymath o Gymru, ym 1698. Mae’n unigryw gan mai hon yw’r unig garreg gerfiedig o’r cyfnod sydd ag arysgrifau Gymraeg arni; Lladin oedd iaith ysgrifenedig arferol Cristnogaeth. Mae arysgrifau ar y pedwar wyneb ac mae croesau’n nodi dechrau dwy o’r rhain. Mae’n anodd darllen yr arysgrifau, ond maen nhw’n bennaf yn coffáu dwy wraig, Tengrumui gwraig briod Adgan, a Cun gwraig Celen. Mae coffáu gwragedd yn y cyfnod hwn yn anarferol iawn, ac mae’n bosibl bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn iaith fwy priodol at y pwrpas hwn na Lladin. Nodwedd unigryw aralll yw’r ymadrodd tricet nitanam, sy’n golygu ‘mae clwyf marwol yn aros’, mynegiad o ofid gan ddyn sydd wedi colli ei wraig. Roedd yn fwy arferol mewn arysgrifau Lladin i wneud cais ffurfiol am weddi dros enaid y sawl a goffeir.

Croes Maen Achwyfan

Mae’r groes hon, a elwir yn Maen Achwyfan (Carreg Sant Cwyfan) ar lafar gwlad, yn perthyn i’r ddegfed ganrif. Mae’n sefyll mewn cae ger Chwitffordd, Sir y Fflint, a oedd o bosibl yn safle man cyfarfod cynnar. Mae ei ffurf a’i haddurn yn Llychlynnaidd o ran arddull ac mae ganddi gysylltiadau â chroesau eraill ar hyd arfordir gogledd Cymru yn ogystal â rhai yng Nghaer a Chilgwri. Mae paneli o blethwaith, clymau wedi’u rhyngweu a phatrymau eraill wedi’u cerfio arni, a hefyd ffigurau dynol ac anifeiliaid, y gellir eu dehongli fel golygfeydd o fytholeg Nordig baganaidd, yr unig olygfeydd o’r math hwn a ddarganfuwyd ar gerflunwaith o’r Oesoedd Canol cynnar yng Nghymru. Tua gwaelod y groes mae yna banel sy’n dangos dyn wedi’i amgylchynu gan forder o geinciau dolennog, sydd o bosibl yn cynrychioli tonnau neu ddŵr. Rhyfelwr llawnarfog ydyw sy’n cario bwyell ryfel, sef arf nodweddiadol Lychlynnaidd, gwaywffon, a chleddyf mewn gwain, ac mae sarff ar yr ochr chwith. Nid yw’r stori benodol a adroddir yma yn hysbys, ond fe ddaeth golygfeydd arwrol o fytholeg Nordig baganaidd yn boblogaidd ar gerflunwaith Cristnogol yn yr ardaloedd lle roedd y Llychlynwyr wedi ymsefydlu, yn enwedig yng ngogledd Lloegr, a byddent wedi apelio at wladychwyr Llychlynnaidd a oedd wedi dod yn Gristnogion yn ddiweddar.

Gan yr Athro Nancy Edwards, Cadeirydd y Comisiynwyr, CBHC

07/10/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x