
Rhannwch eich barn ar ein Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
Allwch gymryd pum munud i gwblhau ein holiadur, a ddyfeisiwyd i’n helpu ymateb yn well i anghenion ein defnyddwyr?
Rydym ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth o’r defnydd a wna’r cyhoedd o’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, adborth arloesol sy’n cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd a gasglwyd o fapiau hanesyddol a ffynnonellau eraill. Gan dynnu ar ymchwil onomastig cyfredol, mae’r Rhestr yn cynnwys yr enwau a’r sillafiadau amrywiol a ddefnyddid ar aneddau, adeiladau, caeau a nodweddion topograffyddol yng Nghymru, ac mae’n rhoi cipolwg diddorol i ni ar ddefnydd tir, hanes ac archeoleg Cymru. Mae hon yn rhestr fyw, a gesglir ac a gynhelir gan y Comisiwn, sy’n parhau i dyfu a datblygu wrth i fwy o ymchwil gael ei wneud. Ychwanegwyd 23,000 o enwau newydd y llynedd. Sefydlwyd y Rhestr yn 2016 mewn ymateb i anghenrhaid statudol Llywodraeth Cymru i gynnal Rhestr o Enwau Lleoedd Cymru o dan Gymal 34 Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwn mewn partneriaeth ag ystod o gyrff eraill, megis Cadw, yr Ymddiriedolaethau Archeolegol, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae’r Rhestr wedi bod yn fyw ers pum mlynedd ac mae hi bellach yn cynnwys 692,743 o enwau hanesyddol.
Gwefan: Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
Bydd cwblhau’r holiadur yn ein helpu i gynnal a gwella’r Rhestr i ddefnyddwyr yn awr ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr!
Daw’r arolwg i ben ddiwedd mis Ebrill.
Dilynwch ni ar Twitter: @RC_EnwauLleoedd
02/23/2022