Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru

Adnodd deongliadol, addysgol ac ymchwil dwyieithog yw’r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru. Nod y Rhestr yw codi ymwybyddiaeth, cynyddu gwybodaeth a hybu ymchwil pellach i feysydd brwydro a safleoedd eraill yng Nghymru lle bu gwrthdaro yn y gorffennol.

Mae’r Rhestr yn canolbwyntio ar leoliad brwydrau. Mae arni fwy na 700 o safleoedd y ceir sôn amdanynt mewn ffynonellau dogfennol megis croniclau, barddoniaeth a chofnodion swyddogol. Parheir i ddatblygu’r Rhestr wrth i wybodaeth newydd ddod i law.

Gellir chwilio’r Rhestr yn ôl enw, dyddiad, pobl a lleoliad, a chaiff defnyddwyr eu hannog i ychwanegu sylwadau a gwybodaeth bellach.

Mae’r adnodd hefyd yn cynnig cysylltau gwe ac adroddiadau ymchwil defnyddiol yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am feysydd brwydro yng Nghymru, sut maen nhw’n cael eu gwarchod a darganfyddiadau maes y gad: http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/

Mae nodweddion sy’n gysylltiedig â’r gwarchae ar Gastell Rhaglan ym 1646 yn ystod y Rhyfel Cartref i’w gweld yn y castell ei hun, ar y tir o’i gwmpas ac yn bellach i ffwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthgloddiau amddiffynnol a godwyd gan y Brenhinwyr a gwrthgloddiau a adeiladwyd yn ystod y gwarchae gan y Seneddwyr. Mae archaeolegwyr hefyd wedi darganfod bwledi mwsged a mowld ar gyfer gwneud peli magnel sy’n dyddio o amser y brwydro.

Murlun o Wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd ym 1839. Cafodd ei ddylunio gan Kenneth Budd a’i godi yn Sgwâr John Frost, Casnewydd, ond mae wedi’i ddymchwel bellach. Dyma’r gwrthryfel arfog mawr olaf gan bobl gyffredin ar dir mawr Prydain.

“Brwydr Abergwaun”: dyma’r tro olaf i fyddin pwer tramor lanio ar dir Ynysoedd Prydain. Fe ddigwyddodd bedair blynedd ar ôl i ryfel dorri allan rhwng Prydain Fawr a Ffrainc Weriniaethol ym 1793. Mae carreg goffa wedi’i chodi i goffáu’r digwyddiad pwysig hwn ar safl e’r goresgyniad yng Ngharreg Wastad, Sir Benfro.

Pyllalai Map AO .25 modfedd arg. 1af, 1889. Mae dod o hyd i leoliad maes brwydro neu safl e lle bu gwrthdaro yn gallu bod yn her, a gall y lleoliadau amrywio o rai amhenodol (rhywle yng Nghymru) i rai mewn lle penodol iawn. Mewn rhai achosion, mae meysydd brwydro wedi’u cydnabod yn swyddogol ac fe’u dangosir ar fapiau Arolwg Ordnans er nad yw’r lleoliad wedi’i gadarnhau eto gan archaeolegwyr. (© a hawliau cronfa ddata Hawlfraint y Goron a’r Landmark Information Group Ltd (Cedwir pob hawl 2017).)

05/23/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets