
Rockfield: Y Stiwdio Recordio yn Nhrefynwy
Roedd Rockfield Farm (Amberley Court Farm yn wreiddiol) yn eiddo i Arglwydd Llangatwg (John Rolls). Roedd cartref ei deulu yn yr Hendre, Llangatwg Feibion Afel, sef plasty gwledig Fictoraidd o bwys yn Sir Fynwy. Cafodd yr Hendre ei ddatblygu gan sawl pensaer o bwys – George Vaughan Maddox, Thomas Henry Wyatt, Henry Pope a Syr Aston Webb – a chafodd ei adeiladu’n bennaf yn yr arddull Gothig Fictoraidd a’r arddull neo-Tuduraidd. Erbyn hyn, mae’r tŷ yn gyfleuster i aelodau Clwb Golff y Rolls of Monmouth. Roedd yr enw Rolls yn coffáu’r teulu Rolls, ac yn enwedig Charles Stewart Rolls (1877-1910) a oedd yn arloeswr ym maes moduro a hedfan ac yn un o sylfaenwyr Rolls Royce. Fe oedd y Prydeiniwr cyntaf i gael ei ladd mewn damwain wrth hedfan awyren â motor, pan ddaeth cynffon ei awyren Wright Flyer yn rhydd yn ystod arddangosfa hedfan yn Bournemouth. Roedd yn 32 oed.
Yn drasig, bu farw Arglwydd Llangatwg a’i dri etifedd gwrywaidd rhwng 1910 a 1916. Daeth ystâd yr Hendre yn eiddo felly i’r chwaer a oedd yn dal yn fyw, sef Eleanor Georgiana Shelley-Rolls. Yn 1919, gwerthodd Eleanor rannau mawr o ystâd yr Hendre, gan gynnwys Amberley Court Farm. Mae’r Hendre yn adnabyddus iawn i haneswyr pensaernïol (gweler yr hanes gan John Newman yn The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (2000), tt. 247-56) ond mae gan Amberley Court le arbennig yn hanes cerddoriaeth.
Yn 1958, daeth Amberley Court Farm ar werth unwaith eto. Cafodd y fferm ei phrynu gan y teulu Ward, a oedd yn ffermwyr godro, ac yn ddiweddarach cafodd y cwmni eiconig Rockfield Studios ei sefydlu yno.
Rockfield Studios: y dyddiau cynnar
Ddiwedd yr 1950au a dechrau’r 1960au, dechreuodd miloedd o bobl ifanc ar draws Ynysoedd Prydain ymddiddori yn sain a ffasiwn newydd Roc a Rôl. Ymhlith y bobl hynny yr oedd pobl ifanc Trefynwy a oedd yn gwrando ar y gerddoriaeth, y grwpiau, y bandiau a’r artistiaid diweddaraf ac yn siarad amdanynt.
Roedd Charles a Kingsley Ward, a oedd yn frodyr i’w gilydd, yn ffermwyr ifanc a oedd yn berchen ar fuches o wartheg godro, moch, a stablau a oedd yn gartref i geffylau Ysgol Farchogaeth Sylvia Gardener. Roedd Charles a Kingsley hefyd yn hoffi cerddoriaeth Roc a Rôl, a gwnaethant ddysgu canu a chwarae’r piano a’r gitâr. Yn 1960, aethant ati i ffurfio band o’r enw ‘Charles Kingsley Combo’ a oedd yn un o fandiau Roc a Rôl cyntaf Cymru.
Daeth Charles Kingsley Combo yn fand poblogaidd yn fuan ac aeth y brodyr ati i recordio tâp arddangos er mwyn cael cytundeb recordio. Teithiodd y ddau frawd i ffatri EMI yn Hayes yn Middlesex, ac ar ôl iddynt gyrraedd yno cawsant eu hanfon gan un o’r gwarchodwyr wrth y giât i EMI House yn Sgwâr Manceinion yn Llundain, lle gwnaethant ofyn am gyfweliad.
Yr wythnos ganlynol, aeth y ddau yn ôl i EMI House a chael eu siomi wrth iddynt gael eu tywys i swyddfa cynhyrchydd a oedd yn enwog am greu recordiau anarferol ar gyfer artistiaid megis Peter Sellers. George Martin oedd y cynhyrchydd hwnnw, a aeth yn ei flaen wedyn i gynhyrchu ar gyfer y Beatles. Chwaraeodd y brodyr eu tâp i George Martin a ddywedodd wrthynt am ddod yn ôl mewn chwe mis gyda rhagor o ddeunydd.
Yn fuan, llwyddodd y band i ddal sylw’r cynhyrchydd recordiau Joe Meek. Arwyddodd Joe gytundeb â’r band, a dechreuodd y brodyr deithio’n rheolaidd i Lundain gan barhau i weithio ar y fferm. Doedd dim traffyrdd ar y pryd, felly roedd y bartneriaeth yn anodd oherwydd bod y daith mor hir ac yn cymryd cymaint o amser.
Yn 1961, meddyliodd y brodyr y gallent ddylunio ac adeiladu eu stiwdio recordio eu hunain yn yr atig yn ffermdy eu rhieni. Cyn pen dim, llwyddodd y fenter i ddenu llawer o sylw ymhlith cerddorion lleol a oedd am recordio eu traciau eu hunain.
Yn fuan, dechreuodd y ddau godi £5 – £10 am bob sesiwn recordio, gan ddefnyddio Ferrograph, tâp-recordydd EMI 301D a oedd yn defnyddio tâp chwarter modfedd, a pheiriant cymysgu sain Elkon ag 8 sianel. Erbyn 1962, roedd yn un o’r stiwdios masnachol cyntaf i’w sefydlu y tu allan i Lundain.
Erbyn 1965, roedd y stiwdio wedi’i symud i ysgubor gerllaw (uwchben y Coach House Studio fel y’i gelwir erbyn hyn), ac roedd y cyfarpar newydd yn cynnwys tâp-recordyddion ril i ril stereo EMI TR-90 a Philips, a chonsol cymysgu a oedd wedi’i greu gan Rosser Electronics yn Abertawe. Flwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd Charles a Kingsley recordio dan yr enw Future Sounds Limited.
Rockfield oedd y Stiwdio Recordio Breswyl Gyntaf yn y Byd
Un o’r rhai cyntaf i recordio yn Coach House Studio – y lleoliad newydd – oedd ‘Elephant’s Memory’, sef band roc Americanaidd a oedd wedi’i ffurfio yn Efrog Newydd. Cafodd y band lety yn y ffermdy gan rieni’r brodyr tra oedd y gwaith recordio’n digwydd yn y stiwdio.
Cyn bo hir, roedd artistiaid megis Dave Edmunds (ganwyd yn 1944) o ‘Love Sculpture’ ac Andy Fairweather Low (ganwyd yn 1948) o ‘Amen Corner’ yn defnyddio’r stiwdio newydd. Erbyn 1967, roedd y Doc Thomas Band gwreiddiol (Mott The Hoople wedyn) yn helpu i sefydlu hunaniaeth y stiwdio yn ei rhinwedd ei hun.
Roedd y stiwdio’n denu cerddorion o bob cwr o’r byd oherwydd ei lleoliad hardd ac anghysbell yng nghefn gwlad Cymru. Byddai’r cerddorion yn aros yn y ffermdy tra byddent yn recordio, sy’n golygu mai Rockfield oedd y stiwdio recordio breswyl gyntaf yn y byd.
Y gân gyntaf i gyrraedd brig y siartiau ar ôl cael ei recordio yn Rockfield oedd ‘I hear you knocking’ gan Dave Edmunds, o’r albwm ‘Rockpile’.
Coach House Studio
Yn 1968, symudodd y stiwdio a oedd yn yr ysgubor i fyny’r grisiau i lawr i’r hen goetsiws a’r hen stablau. Cafodd ei galw’n Studio 1 i ddechrau, sef y Coach House Studio erbyn hyn. Cafodd enw’r cwmni ei newid i Rockfield Studios, ar ôl y pentref cyfagos, ar 4 Rhagfyr 1970. Roedd y cyfleuster newydd hwn yn cynnwys consol cymysgu Trident TSM ag 8 trac. Cyn bo hir, roedd y stiwdio’n croesawu grwpiau megis y Black Sabbath cynnar, Hawkwind, Arthur Brown, Ace, Dr Feelgood, Budgie, Judas Priest, Motörhead, Rush, Tom Robinson Band, Shakin’ Stevens a’r Sunsets yn ogystal â llu o grwpiau eraill o’r 1970au.
The Quadrangle Studio
Yn 1973, cafodd stiwdio newydd ei chreu drwy addasu rhai o’r stablau yn y brif iard stablau. Mae’r ystafell ddrymiau wreiddiol yn cael ei defnyddio o hyd, gyda’i phanelau symudol a’i bythau arwahanu a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Charles Ward. Gan mai hon oedd y stiwdio fwyaf o’r ddwy, cafodd ei galw’n Studio 1 a chafodd y stiwdio arall ei galw’n Studio 2, ond cafodd yr enw ei newid yn nes ymlaen i The Quadrangle Studio.
Un o’r grwpiau cyntaf i ddefnyddio The Quadrangle Studio oedd grŵp anenwog o’r enw Queen. Recordiodd y band ei gân lwyddiannus ‘Killer Queen’ yn y stiwdio hon, o’r albwm ‘Sheer Heart Attack’ (a ryddhawyd ar 8 Tachwedd 1974). Flwyddyn yn unig yn ddiweddarach, aeth y band ati i recordio ‘A Night at the Opera’ (a ryddhawyd ar 21 Tachwedd 1975) a oedd yn cynnwys y sengl eiconig ‘Bohemian Rhapsody’ a gyfansoddwyd gan Freddie Mercury. Enillodd Rockfield hygrededd byd-eang ymhlith artistiaid, cynhyrchwyr a pheirianwyr sain yn sgil y ddau albwm hyn.
Yn 1987, cafodd y stiwdios eu hailenwi’n The Quadrangle a The Coach House pan gymerodd Kingsley yr awenau ar ôl i Charles ac yntau rannu’r cwmni. Aeth Charles yn ei flaen i redeg Monnow Valley Studios.
Yr 1980au
Yn yr 1980au, profodd y stiwdios lwyddiant pellach gydag Adam and the Ants, Bad Manners, Clannad, The Cult, The Damned, Echo & the Bunnymen, Robert Plant, Iggy Pop, Simple Minds, The Stone Roses, The Stranglers, ac yn y blaen ac yn y blaen…
Yn 1984, cafodd gwelliannau acwstig eu gwneud i’r Coach House Studio drwy ychwanegu nenfydau onglog a siambrau atsain naturiol, a chafodd consol cymysgu Neve VR cyntaf y byd ei osod yno hefyd. Nid yw’r stiwdio recordio wedi newid fawr ddim. Ac mae’n dal i gynnwys y pegfyrddau gwreiddiol a osodwyd ar y waliau yn 1968 i wella’r acwsteg.
Yr 1990au
Aeth y stiwdios o nerth i nerth yn yr 1990au, gyda grwpiau hen a newydd yn defnyddio The Quadrangle Studio a’r Coach House Studio: Aztec Camera, Big Country, Cast, The Charlatans, Coldplay, Hot House Flowers, Julian Lennon, Annie Lennox, Oasis, The Pogues, Stereophonics a Paul Weller ymhlith eraill… Treuliodd Stone Roses 14 mis yno’n recordio eu halbwm ‘Second Coming’, a daeth albwm (What’s the Story) Morning Glory? gan Oasis yn fuan wedyn.
Erbyn hynny, roedd y Coach House Studio yn stiwdio analog a digidol ac yn cynnwys siambrau atsain naturiol ychwanegol, Platiau Adlewyrchol EMT a chonsol cymysgu Neve 8128 newydd.
Y 2000au
Ers 2000, mae cyfarpar sain y stiwdio wedi newid eto ac mae gan The Quadrangle Studio hen gonsol Cyfres 500 MCI o 1976. Parhaodd y stiwdios i ddenu llu o artistiaid a oedd yn cynnwys: Catatonia, The Darkness, Kasabian, George Michael, New Order, The Proclaimers, Suede a Super Furry Animals ymhlith llawer o artistiaid a grwpiau eraill.
Mae llawer o gynhyrchwyr recordiau wedi dod yn rhan o hanes Rockfield, o flynyddoedd cynnar Gus Dudgeon (1942 – 2002), Roy Thomas Baker (ganwyd yn 1946), John William Leckie (ganwyd yn 1949), Hugh Jones a John Anthony (ganwyd yn 1944).
Mae cwmni Rockfield Studios yn dal i ddenu prif artistiaid a chynhyrchwyr recordiau’r byd. Mae’n meithrin talent newydd drwy ei raglen o ddosbarthiadau meistr preswyl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr a pheirianwyr. Boed i hynny barhau am amser hir i ddod!
I gael gwybodaeth am safleoedd yn Rockfield a Llangatwg
- Rockfield Studios.
- I gael gwybodaeth am safleoedd yn Rockfield a Llangatwg, chwiliwch ein cronfa ddata ar-lein, Coflein.
- I gael gwybodaeth am enwau lleoedd hanesyddol yn Rockfield/Llangatwg, chwiliwch ein rhestr o enwau lleoedd hanesyddol.
Gan Charles Green, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith)










02/06/2023