Ruby, Ruby, Ruby!


‘Darlun y Flwyddyn’ 1943

Un o’r gweithiau celf mwyaf enwog ac ysbrydoledig a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw “Ruby Loftus Screwing a Breech-ring”. Mae’r darlun olew ar gynfas yn mesur 86.3cm wrth 101.9cm. Cafodd ei baentio gan y Fonesig Laura Knight ym 1943 ac mae yng nghasgliadau Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth. Cafodd ei gomisiynu gan y Pwyllgor Ymgynghorol Arlunwyr Rhyfel i dynnu sylw at y gwaith hanfodol a wnâi menywod fel rhan o’r ymdrech ryfel.

This image has an empty alt attribute; its file name is ©-IWM-Art.IWM-ART-LD-2850-1.jpg
Ruby Loftus screwing a Breech-ring (Art.IWM ART LD 2850) image: portrait of a female factory worker operating a lathe Copyright: © IWM. Original Source: http://www.iwm.org.uk/collections/item/object/15504

Roedd Ruby yn ‘eithriadol o fedrus’ yn gwneud gwaith traddodiadol dynion

Cyflwynwyd y Gorchymyn Gwaith Hanfodol gan Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur, ym 1941. Ei nod oedd dosbarthu swyddi yr ystyrid eu bod yn hanfodol i’r ymdrech ryfel. Roedd yn orfodol i fenywod rhwng 18 a 60 oed gofrestru ar gyfer gwaith rhyfel.

Nid oedd gan Ruby Loftus unrhyw brofiad blaenorol o beirianneg ond roedd hi’n cael ei chydnabod yn weithwraig ffatri heb ei hail. Mae’r paentiad yn ei dangos hi’n ymgymryd ag un o’r tasgau mwyaf cymhleth yn y ffatri, un a fyddai fel rheol yn gofyn am saith mlynedd o hyfforddiant i’w meistroli. Roedd hi wedi dysgu proses beirianegol anhygoel o anodd mewn amser byr iawn.

Paentiwyd gan yr arlunwraig amlycaf ym Mhrydain

Erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, y Fonesig Laura Knight oedd yr arlunwraig amlycaf ym Mhrydain. Cafodd ei chomisiynu i baentio Ruby tua diwedd 1942. Ei bwriad oedd gwneud portread mewn stiwdio, ond roedd yn well gan yr awdurdodau gael golygfa ar lawr ffatri gwneud peiriannau. Felly fe baentiodd hi Ruby yn gweithio wrth y turn dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mawrth 1943.

Menywod yw bron pob un o gydweithwyr Ruby a ddangosir yn y cefndir. Dim ond un dyn sydd i’w weld – y fforman mae’n debyg.

Roedd campwaith Knight o fenyw’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni tasg a ystyrid ynghynt yn waith dyn yn hwb anferth i ysbryd pobl yn ystod y rhyfel. Cafodd posteri mawr o’r darlun eu hargraffu a’u harddangos yn y ffatrïoedd. Hefyd fe aeth ar daith ar hyd a lled Prydain fel rhan o amryfal arddangosfeydd, a daeth yn ddelwedd eiconig o gyfraniad menywod at yr ymdrech ryfel.

Felly beth rydyn ni’n ei wybod am Ruby?

Cafodd Stella Ruby Isabella Loftus ei geni yn Llanhiledd ym 1921 lle roedd y teulu’n byw mewn tŷ teras bach yn Central Road.

Cynigiwyd swydd newydd gyda Shell-Mex i’w thad, Harold, ac felly fe symudodd y teulu i Finchley yn Llundain. Mae’n ymddangos bod Ruby, ei dwy chwaer a’i brawd yn hapus iawn yn eu cartref newydd ond daeth tro ar fyd pan fu farw ei thad ym 1938.

Ar ôl i’w tŷ gael ei ddinistrio gan fom, penderfynodd y teulu symud yn ôl i Dde Cymru, lle buont yn byw mewn fflat yn Corporation Road, Casnewydd. Daeth eu mam, Martha Loftus, o hyd i waith fel porthor yng ngorsaf Casnewydd. Aeth Ruby a’i chwiorydd, Elsie a Queenie, i weithio yn Ffatri Ordnans Brenhinol Rhif 11 yng Nghasnewydd. Gan fod y chwiorydd yn awr wedi’u dosbarthu’n weithwyr a oedd yn gwneud gwaith neilltuedig, cawsant lety yn un o’r tai newydd yn Elgar Avenue, Alway, nid nepell o’r ffatri.

This image has an empty alt attribute; its file name is Newport-A-Z-20-half-1024x881.jpg

Ar ôl y rhyfel

Wedi’r ffwdan o gael ei hanfarwoli mewn paentiad enwog, fe ailgydiodd Ruby yn ei gwaith ar y turn, ac ym mis Medi 1943 fe briododd â John Green, is-gorpral gydag 11eg gatrawd yr Hwsariaid. Pan ddaeth y rhyfel i ben, penderfynodd y ddau ymfudo i Ganada. Wnaeth hi byth gweithio mewn ffatri nac ar beiriannau byth eto. Bu’n dioddef o sglerosis cyhyrol yn ei henaint a bu farw yn 2004 yn 83 oed.

Cafodd y ffatri lle bu’n gweithio ei dymchwel, ac mae tai wedi’u codi ar y safle erbyn hyn. Mae’r ardal yn cael ei galw’n Ardd-bentref Loftus – teyrnged wirioneddol haeddiannol.

Gweler mwy:

  • Ein cofnod safle ar gyfer Ffatri Ordnans Brenhinol Rhif 11, Casnewydd.
  • Gellir gweld film fer o’r paentiad, y Fonesig Laura Knight ac, wrth gwrs, Ruby Loftus yma.
  • Darllenwch fwy am Gasnewydd adeg y rhyfel, y ffatri a’r menywod a fu’n gweithio yno, gan gynnwys hanes Ruby Loftus, yn Wartime Newport, prosiect gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

03/08/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x