
Rydym ni wedi creu oriel ar wefan Coflein i nodi pen-blwydd llofnodi Cytundeb Trefaldwyn saith cant a hanner o flynyddoedd yn ôl

Mae’r rhyd yn Rhydwhiman, lle y llofnodwyd Cytundeb Trefaldwyn ar 29 Medi 1267, ar ddolen yn yr afon ar frig y ffotograff. Mae cloddiau enfawr y gaer Rufeinig (Y Gaer neu Forden Gaer) i’w gweld fel olion crasu yn y canol.
Ar 29 Medi 1267, y rhyd yn Rhydwhiman oedd safle llofnodi Cytundeb Trefaldwyn. Llofnodwyd y cytundeb hanesyddol hwn, pan gydnabu Harri III hawl Llywelyn, Tywysog Cymru, i lywodraethu ei diroedd ei hun, mewn seremoni a fynychwyd gan Lywelyn a Harri, a chadarnhaodd y trefniadau a luniasid gan lysgennad y Pab, y Cardinal Ottobuono. Er bod y safle heddiw yn edrych fel dolen goediog raddol yn yr afon, mae wedi dylanwadu’n drwm ar weithgareddau dynol yn y gymdogaeth. Mae pwysigrwydd strategol y fryngaer o Oes yr Haearn yn Ffridd Faldwyn, y gaer Rufeinig yn Y Gaer (Ffordun), y castell Normanaidd yn Hen Domen, a’r cestyll canoloesol diweddarach yn Nhrefaldwyn a Dolforwyn yn deillio o’r ffaith eu bod yn agos at y rhyd.
Seilir pwysigrwydd y rhyd ar ddwy nodwedd dopograffig. Yn gyntaf, dyma’r man isaf ar yr afon y gellir ei groesi’n hawdd. Yn ail, mae’n nodi’r man lle mae Hafren yn newid o fod yn afon gyflym ei llif yn ei rhan uchaf, lle y mae’n teithio drwy ddyffryn gweddol serth a chul, i fod yn afon arafach ei llif yn ei rhan ganol, lle y mae’n teithio drwy orlifdir ehangach sy’n fwy addas i amaeth. Arweiniodd natur ei daearyddiaeth at greu ffiniau rhwng cymunedau a adlewyrchir yn y canolfannau gwleidyddol a milwrol a godwyd yn yr ardal. Mae ein horiel yn dangos grŵp o’r prif henebion wedi’u clystyru o amgylch y rhyd.
Rydym ni wedi creu oriel ar wefan Coflein i nodi pen-blwydd llofnodi Cytundeb Trefaldwyn saith cant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Sylfaenwyd Castell Dolforwyn gan Lywelyn ap Gruffudd chwe blynedd wedi llofnodi’r cytundeb, ar ôl i’r heddwch yr oedd wedi’i greu ddechrau chwalu.
09/29/2017