
Rydym yn ychwanegu gwasanaethau newydd at ein Gwasanaeth Ymholiadau
Bob blwyddyn, byddwn yn adolygu’r gwasanaethau a gynigir gennym a’r prisiau a godir gennym, er mwyn sicrhau eu bod yn deg ac yn addas i’w diben a’u bod yn adlewyrchu gwasanaethau a phrisiau archifau a llyfrgelloedd eraill yng Nghymru a Phrydain. Eleni, rydym wedi penderfynu gwneud sawl newid, sy’n cynnwys dechrau cynnig sesiynau ymgynghori o bell drwy gyswllt fideo, dileu’r tâl am wasanaeth ffotograffiaeth yn ein Hystafell Chwilio, a sicrhau bod ein data ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored.
Gellir cynnal y sesiynau ymgynghori newydd drwy gyswllt fideo ar Microsoft Teams neu Zoom, a byddant yn eich galluogi i siarad ag aelod hyddysg o’n Tîm Ymholiadau, a fydd yn barod i’ch helpu. Gall y sesiynau ymgynghori hyn fod yn rhai i drafod dogfennau y mae gennych ddiddordeb ynddynt ac yn rhai i’ch helpu i benderfynu ai ymweld yn bersonol â’r Comisiwn i ymchwilio ymhellach fyddai orau i chi, neu archebu sganiau neu gopïau o ddeunydd sydd yn yr archif. Gallwn ddangos dogfennau i chi yn ystod y sesiwn, yn amodol ar eu maint a’u cyflwr, ond oherwydd prinder amser ac ystyriaethau ymarferol ni fydd yn bosibl yn ôl pob tebyg i chi graffu’n agos ar ddeunydd o’r archif neu bori drwy destunau sy’n hir. Fel arall, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad i chi ynghylch defnyddio ein hadnoddau, sy’n debyg i’r cyngor a’r arweiniad y byddech yn eu cael pe baech yn ymweld â ni’n bersonol yn ein Hystafell Chwilio yn Aberystwyth. P’un a ydych yn ceisio darganfod hanes eich cartref neu’ch teulu neu’ch bod yn ymchwilydd proffesiynol sy’n ceisio deall ein casgliadau’n well, rydym yma i’ch helpu. Mae sesiynau 40 munud ar gael bob dydd Gwener ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn ein Rhestr Brisiau, a gallwch archebu lle drwy ddefnyddio ein Ffurflen Ymholi ac Archebu neu drwy ein ffonio, anfon ebost atom neu ysgrifennu atom.
Rydym hefyd wedi dileu’r tâl am wasanaeth ffotograffiaeth yn ein Hystafell Chwilio, fel y mae llawer o sefydliadau eraill ledled Cymru wedi’i wneud. Am resymau hawlfraint, bydd angen i ddefnyddwyr sydd am dynnu ffotograffau o eitemau o archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) a’r Llyfrgell gwblhau’r ffurflenni a’r datganiadau perthnasol o hyd, a byddwn yn parhau i godi tâl am ffotograffau o safon sy’n addas ar gyfer ymchwil, a dynnir gan y staff.
Yn olaf, fel yr ydym wedi cyhoeddi’n ddiweddar, rydym wedi penderfynu sicrhau bod data CHCC am safleoedd ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored ac rydym wrthi’n sicrhau bod y data ei hun ar gael i’w lawrlwytho o borth Cymru Hanesyddol, a reolir gan CBHC, ac o MapDataCymru, sef porth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. At hynny, gallwch barhau i archebu setiau data wedi’u teilwra gennym ni, am ffi brosesu, gan ddefnyddio ein Ffurflen Archebu ar-lein. Mae’r manylion i’w gweld yn ein Rhestr Brisiau.
Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn esgor ar nifer o effeithiau cadarnhaol. Yr effaith bennaf a ddymunir yw sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael yn CHCC, sef un o dri chasgliad cenedlaethol Cymru, ar gael yn haws i bawb. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael mynediad i’n casgliadau o bell ac rydym yn gweithio i addasu ein gwasanaethau’n unol â hynny. Mae manteision hynny’n mynd y tu hwnt i iechyd y cyhoedd, ac rydym yn ymwybodol bod lleihau’r angen i deithio i lyfrgelloedd ac archifau os oes modd nid yn unig yn helpu’r amgylchedd a’n hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol ond hefyd yn arbed amser a chost teithio i bobl. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo o hyd hefyd i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb ardderchog ac rydym bob amser yn barod i groesawu ymwelwyr, ymchwilwyr a grwpiau i weld ein casgliadau yn ein Hystafell Chwilio.
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’n prisiau hefyd, sy’n cynnwys cyflwyno ffi am chwilio drwy awyrluniau. Mae’r newidiadau hynny’n angenrheidiol, yn anffodus, oherwydd natur y casgliad. Ond rydym wrthi’n gweithio ar hyn o bryd, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod y casgliadau hyn ar gael yn haws yn y dyfodol.
At hynny, er y bydd unrhyw chwiliadau sylfaenol yn cael eu cyflawni am ddim gan ein Tîm Ymholiadau, rydym wedi cadw’r ffi am chwiliadau cymhleth. Yn rhan o hynny, rydym yn awr yn cynnig crynodebau o gynnwys dogfennau ac adroddiadau hir, lle bo’n briodol, a fydd yn cynorthwyo ymchwilwyr i ddeall yn well pa ddogfennau y mae angen iddynt eu gweld neu gael copïau ohonynt. Mae’r manylion i’w gweld yn ein Rhestr Brisiau.
Yn olaf, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r modd yr ydym yn codi tâl am archebion sy’n gofyn am lawer o sganiau o safon addas ar gyfer ymchwil. Rydym yn gobeithio y bydd hynny’n rhesymoli ein taliadau ac yn helpu defnyddwyr i ddeall ac amcangyfrif costau’n haws.
Mae’r holl newidiadau hyn i’w gweld yn ein Rhestr Brisiau newydd a’n Ffïoedd Trwydded ar ein gwefan.
Tîm y Llyfrgell ac Ymholiadau
19/06/2023