
Rydyn ni’n Gwneud Gwelliannau: Gwella Disgrifiadau o Safleoedd, Gwanwyn 2018
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn dal gwybodaeth am ddegau o filoedd o henebion ledled Cymru, y mae gan bob un ohonynt ei chofnod unigol ei hun ar ein rhestr ar-lein, Coflein. Mae’r cofnodion hyn yn nodi’r math o safle, ei leoliad, lluniau ac eitemau archifol cysylltiedig, a disgrifiad byr o’r safle a’i hanes. Gan hynny, mae Coflein yn lle cyfleus i ddarganfod gwybodaeth am amgylchedd adeiledig cyfoethog Cymru.
Mae gwella disgrifiadau o safleoedd wedi bod yn ganolbwynt gwaith parhaus i sicrhau bod cofnodion mor addysgiadol a chywir â phosibl. Mae’r gwaith hwn wedi cael sylw yn ddiweddar mewn oriel newydd ar Coflein, sy’n dangos ychydig o’r gwelliannau a gwnaethpwyd yn ystod Gwanwyn 2018. O eglwys ganoloesol ar ganol maes tanio i swyddfeydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng nghanol Caerdydd, mae’r oriel yn arddangos yr amrywiaeth eang o safleoedd a archwilir gan y Comisiwn Brenhinol. Mae’r oriel hefyd yn rhoi sylw i sawl tafarndy a gwesty, gan gynwys y Cambrian Hotel yn y Borth, Ceredigion. Roedd y gwesty hwn yn noddfa i blant y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn iddo gael ei gyflwyno i Urdd Gobaith Cymru ym 1947.
Gobeithiwn mai’r oriel hon fydd y gyntaf o nifer a gynhyrchir yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn dangos y gwaith a wnawn i wella disgrifiadau o safleoedd ar Coflein. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw wybodaeth y mae angen ei gwella neu ei chywiro, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni trwy ddefnyddio’r tab ‘Adborth’ ar Coflein.
06/22/2018