Sant Padrig a hanes claddfeydd dynol ac erydiad arfordirol

‘Capel Badrig i’r gorllewin o Dyddewi ac mor agos at ei famwlad, Iwerddon, ag y gallai fod. Mae wedi mynd â’i ben iddo’n llwyr erbyn hyn.’ George Owen, 1603. (Cyfieithiad)

Lluniad ailgreu o Gapel Badrig o banel gwybodaeth Cadw ar y safle

Ble yr hwyliodd Padrig am Iwerddo

Mae George Owen yn ei ‘Description of Penbrokshire’, a ysgrifennwyd ym 1603, yn nodi bod capel Sant Padrig yn adfail. Pedwar can mlynedd a mwy wedyn, mae’r hyn sy’n weddill o Gapel Badrig i’w weld ym Mhorth Mawr ar arfordir Penfro ac o’r lleoliad hwn gellir gweld arfordir Swydd Wexford yn Iwerddon. Dywedir mai o’r fan hyn yr hwyliodd Padrig am Iwerddon yn y 5ed ganrif OC. Daeth yn nawddsant Iwerddon yn ddiweddarach a dethlir dydd ei farw ar Ddiwrnod Sant Padrig (17 Mawrth). Adeiladwyd y capel ar safle mynwent sy’n dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif OC o leiaf, ac mae’n bosibl bod rhai o’r bobl sydd wedi’u claddu yno yn adnabod Sant Padrig, a bod rhai ohonynt yn Wyddelod hyd yn oed.

Pembrokeshire Herald, 7 Chwefror 1890, Papurau Newydd Cymru Arlein

Darganfod sgerbydau hynafol

Dros y canrifoedd, mae moroedd mawr wedi datguddio esgyrn dynol yn rheolaidd ar y safle a chofnodwyd digwyddiadau o’r fath mor gynnar ag 1890 gan bapurau newydd. Yn fwy diweddar, mae archaeolegwyr wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o’r angen i achub y gweddillion hyn rhag erydiad pellach gan y môr.

Bedd gydag esgyrn breichiau dynol a gloddiwyd ym mis Chwefror 1970.

Cafodd y capel ei gloddio gyntaf ym 1924, a chloddiwyd rhai o’r beddau ym 1970. Daeth gweddillion dynol i’r golwg eto yn ystod stormydd ffyrnig 2013/2014, ac yn sgil hyn fe ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (YAD) a Phrifysgol Sheffield â chloddiad achub mawr, ac yna dri thymor arall o gloddio yn 2015, 2016 a 2019. Mae’r cloddiadau hyn wedi datgelu claddfeydd Cristnogol cynnar 1000 o flynyddoedd oed a gweddillion bron 100 o gyrff mewn cistfeini carreg. Anfonwyd rhai o’r esgyrn i Brifysgol Sheffield i’w dadansoddi.

“Y nod yw parhau â’r ymchwil i Gapel Sant Padrig oherwydd bod gan y dystiolaeth archaeolegol y gallu i weddnewid ein dealltwriaeth o’r cymunedau Cristnogol a fu’n byw yn Sir Benfro yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar ac a fu farw yno.”…..“Plant oedd wedi’u claddu mewn llawer o’r beddau a gloddiwyd ac roedd eu cyrff bach wedi’u haddurno â chregyn môr a cherigos cwarts sgleiniog. Roedd croesau wedi’u crafu ar ddwy o gerrig beddau’r plant.” Ken Murphy, YAD.

Llun o’r awyr yn dangos cloddiadau Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ym mis Mai 2015.

Difrod parhaol i dreftadaeth arfordirol Cymru

Nid Capel Sant Padrig yw’r unig safle, ysywaeth, sy’n dioddef o effeithiau dinistriol erydiad arfordirol. Mae safleoedd dirifedi ar hyd arfordir Sir Benfro, a gweddill Cymru o ran hynny, bellach yn wynebu difrod parhaol wedi’i achosi gan y môr, tywydd mwy stormus a gwlyb, a bywyd gwyllt. Mae ymchwil sy’n cael ei wneud gan y prosiect CHERISH i newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol wedi dechrau dangos sut mae newid hinsawdd yn dwysáu’r gwahanol fathau o erydiad sy’n dinistrio treftadaeth ein harfordiroedd.

Lefel uwch y môr a stormydd mwy gerwin sy’n bennaf cyfrifol am yr erydiad yng Nghapel Sant Padrig. Mae’r stormydd wedi graddol wthio’n ôl y twyni tywod meddal yr adeiladwyd y capel arnynt. Oherwydd cyflymder yr erydu yn y fan hyn, ac ar safleoedd treftadaeth arfordirol eraill yng Nghymru, mae’n bosibl y collir llawer o henebion yn ystod y ganrif nesaf. Mae’n anochel y cânt eu colli, ond gellir achub eu storïau cyn ei bod hi’n rhy hwyr drwy gynnal arolygon a gwneud ymchwil ar frys. Mae’r cloddiadau yn y capel yn un enghraifft o hyn.

Gweler mwy:

Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed erthygl a fideo diddorol am gloddiadau 2019.

1 Ebrill, 5pm, ‘Living on the brink: Uncovering the stories of Pembrokeshire’s eroding promontory forts’– Bydd Daniel Hunt yn rhoi sgwrs am ddim ar Zoom sy’n edrych ar erydiad arfordirol yn Sir Benfro – i gael mwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle.

Ein cofnod ar gyfer Capel Sant Padrig.

Darllenwch newyddlen ddiweddaraf y Prosiect CHERISH.

Helen Rowe (Swyddog Gwybodaeth) a Daniel Hunt (Ymchwilydd, Y Prosiect CHERISH).

03/17/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x