
Seminar Proffesiynol Cherish 2018
Ar Ddydd Iau 17 Mai 2018 bydd CHERISH yn cynnal Seminar Proffesiynol rhad ac am ddim ar Newid Hinsawdd a Threftadaeth yr Arfordir yn Venue Cymru, Llandudno, Gogledd Cymru. Ceir cyflwyniadau gan y tîm CHERISH a chan staff proffesiynol sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Gellir cael mwy o fanylion ar y dudalen Eventbrite lle gallwch hefyd archebu’ch lle.
28/03/2018