CBHC / RCAHMW > Newyddion > Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans – Archwiliwch eich Archifau
Ordnance Survey Scribblings

Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans – Archwiliwch eich Archifau

Ers dyddiau cynnar cartograffeg, mae’r rheiny a fu’n gweithio ar y mapiau yn aml wedi gadael llofnodion neu symbolau cudd o fewn y llinellau a llythrennau cymhleth.

Mae casgliadau’r Comisiwn Brenhinol o awyrluniau’n cynnwys nifer sylweddol o brintiau Arolwg Ordnans mawr. Cafodd y rhain eu defnyddio gan swyddogion cartograffig, a fyddai’n nodi unrhyw newidiadau yn y dirwedd ar gyfer uwchraddio mapiau’r DU. Roedd y gweithwyr yn fedrus iawn, ond roedd llawer o’r tasgau’n ddiflas ac ailadroddus. Mae rhai printiau’n amlygu tystiolaeth o’u rhwystredigaeth – a synnwyr digrifwch ambell waith.

Ar ffotograff a dynnwyd tua chanol y 1970au, mae heneb newydd ei darganfod yn cael ei marcio gan ddefnyddio anodiad safonol cydnabyddedig – a llun o ddyn matsis. Mae print arall yn dangos cylched rasio syml mewn cae, lle mae’r cartograffydd wedi ysgrifennu “Big Boot”. Ar lun o Lyn Clywedog, mae lluniad cartŵn o long ryfel wedi’i farcio’n “Tirpitz”. Yn ystod y 1970au roedd angen plotio nifer o gynlluniau draenio tir ar fapiau graddfa fawr. Ysgrifennodd un aelod staff “Phoorrrrrr Tremendous drains”.

Mae’r anodiadau hyn mor ddiddorol â’r delweddau eu hunain, ac fe gânt eu cadw fel rhan o’r casgliad pwysig hwn.

Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans

Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans

Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans

Sgriblan ar Fapiau Arolwg Ordnans

22/11/2016

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x