
Siop Newydd y Comisiwn Brenhinol
Mae ein siop ar-lein newydd yn gwneud prynu llyfrau’r Comisiwn Brenhinol yn haws byth. Mae ein holl lyfrau wedi’u rhestru yn ôl yr wyddor yn ein catalog a gellir eu prynu’n uniongyrchol gan Siop y Comisiwn Brenhinol. Mae pacio a phostio am ddim yn y DU. Mae’r teitlau’n cynnwys llawer o’n cyhoeddiadau cynharaf, yn enwedig yr Inventories o safleoedd hynafol a hanesyddol ym mhob sir. Mae llawer o’r Inventories hŷn clasurol bellach ar gael am ddim fel eLyfrau y gellir eu llwytho i lawr yn hawdd. Cyhoeddodd y Comisiwn Brenhinol ei lyfr thematig cyntaf, Houses of the Welsh Countryside, ym 1975, ac ers hynny rydym wedi cyhoeddi mwy na deg ar hugain o deitlau sy’n ymdrin â phob agwedd ar dreftadaeth Cymru. Mae ein catalog cyfan ar gael yn awr drwy ein Siop, ac mae teitlau sydd allan o brint ar gael fel eLyfrau.
Bydd disgowntiau hyrwyddol ar gael o bryd i’w gilydd, gan ddechrau gyda disgownt tymhorol ym mis Rhagfyr o 10% (NADOLIG2019). O Ddydd Llun 2 Rhagfyr hyd Ddydd Gwener 20 Rhagfyr rydym hefyd yn cynnig arbedion ychwanegol ar rai cyhoeddiadau, yn eu plith Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air am £19.95 (disgownt o £10) a Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales am £9.95 (disgownt o £5).

Mae defnyddio’r Siop yn hawdd. Rhowch eich eitemau yn y cart ac ewch i’r man talu. Yn y man talu, teipiwch y cod disgownt hyrwyddol (NADOLIG2019) i gael disgownt o 10% ar unwaith ar bopeth a brynwch, gan gynnwys stoc sydd wedi’i disgowntio.
Mwynhewch y siopa!
04/12/2019