Sôn amdan… Ysbyty Ifan, Llanelltud a Llanrwst

Rydym wedi dechrau ar y gwaith (enfawr) o drawsysgrifio a lanlwytho’r deunydd sy’n ymwneud ag enwau lleoedd o Parochialia Edward Lhuyd i’r Rhestr. Pan yn geidwad Amgueddfa Ashmole yn Rhydychen, anfonodd Lhuyd holiaduron i bob plwyf yng Nghymru yn gofyn am sawl math o wybodaeth ddiddorol, gan gynnwys enwau tai, afonydd, mynyddoedd, coedydd ac yn y blaen. Ni dderbyniodd ymateb gan bawb, a gwyddom na fu i bob ymateb y cafodd oroesi, ond mae’r rhai sydd ar gael heddiw’n drysorfa o ffurfiau hanesyddol a cholledig.

Untitled-1

Ychwanegwyd data o bedwar plwyf hyd yn hyn, sef Llanelltud, Tal y Bont, Ysbyty Ifan a Llanrwst. Er mai dim ond pedwar ardal gymharol fach sydd wedi’u trawsysgrifio hyd yn hyn, cymaint yw cyfoethogrwydd y data bod dros ddau gant a hanner o enwau wedi cael eu hychwanegu’n barod. Ysgrifennodd rhai gohebwyr yn ôl at Lhuyd a chynnwys gwybodaeth am berchnogion y tai, neu am hynafiaethau a gafwyd yn y caeau, sy’n gwneud y data hwn yn ddefnyddiol i haneswyr ac achyddion yn ogystal ag i’r rhai sy’n ymddiddori mewn enwau lleoedd. Gobeithir y byddwn yn medru ychwanegu mwy o blwyfi’n fuan, felly gwyliwch y gofod hwn!

Gellir gweld yr wybodaeth newydd hyn ar wefan y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol:
https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/enwaulleoedd/map

 

10/10/2017

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x