
SS Samtampa
Efallai eich bod chi’n gwybod bod 180,000 o safleoedd wedi’u cofnodi yng nghasgliad Coflein, cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Ceir yn y casgliad cenedlaethol hwn wybodaeth amhrisiadwy am amgylchedd hanesyddol Cymru.
Safleoedd arforol yw llawer o’r cofnodion yng nghasgliad Coflein, a nod y prosiect presennol, ‘Gwneud y Cysylltiad: Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’, a ariennir gan Sefydliad Cofrestr Lloyd’s, yw cyfoethogi cofnodion y Comisiwn Brenhinol drwy eu cysylltu’n uniongyrchol â Chofrestr Colledion Lloyd’s.
Cyflwynwyd y prosiect yn ein blog blaenorol, ac erbyn hyn rydym wrthi’n brysur yn darganfod cofnodion newydd, ac ailddarganfod hen rai, sy’n datgelu agweddau ar hanes arforol Cymru.

Suddodd cannoedd o longau masnach yn nyfroedd Cymru rhwng 1890 a 2000, ac un o’r digwyddiadau mwyaf trasig oedd llongddrylliad yr SS Samtampa, agerlong 7,000 tunnell gros a ddrylliwyd ar Drwyn y Sger, oddi ar Borth-cawl, ym mis Ebrill 1947. Gellir gweld y cofnod ar Coflein ar gyfer y llong hon yma.

Llong ‘Liberty’ oedd y Samtampa yn wreiddiol, un o fwy na 2,700 o longau cargo a adeiladwyd yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llongau hyn eu masgynhyrchu ar raddfa enfawr mewn ymateb i’r colledion mawr yr oedd y Cynghreiriaid yn eu dioddef wrth i’r ymgyrch llongau-U fynd o nerth i nerth. Eu pwrpas oedd darparu galluoedd logistaidd hanfodol i’r Cynghreiriaid. Er bod eu cynllun yn syml a’r costau cynhyrchu’n isel, dangosodd y llongau Liberty yn glir rym diwydiannol yr Unol Daleithiau adeg rhyfel.
Enw gwreiddiol yr SS Samtampa oedd yr SS Peleg Wadsworth. Cafodd ei hail-enwi ar ôl dod i feddiant Prydain o dan y rhaglen Les-Fenthyg.
Ar y 23ain o Ebrill 1947 roedd y Samtampa ar daith o Middlesborough i Gasnewydd dan falast. Mewn tywydd garw ym Môr Hafren aeth rhywbeth o’i le ar yr injan a phenderfynodd y Capten, H. Neal Sherwell, angori ym Mae Abertawe a cheisio ei thrwsio.
Ond tua 4.40pm fe dorrodd cadwyn yr angor starbord, ac mewn gwyntoedd nerth tymestl fe ysgubwyd y Samtampa tua’r dwyrain ar draws y bae. Erbyn 5.00pm roedd y llong wedi cael ei gyrru ar y creigiau ger Trwyn y Sger.
Lansiwyd bad achub y Mwmbwls, Edward, Prince of Wales, ychydig ar ôl 6.00pm ac ymdrechodd Gwylwyr y Glannau Porth-cawl i gael rhaff i’r llong o’r lan. Nid yw’n hollol glir beth a ddigwyddodd yn ystod yr ymgais i achub y criw, ond y bore wedyn fe ddaethpwyd o hyd i’r bad achub, a oedd dan reolaeth y Cocswn William Gammon, wedi’i falu â’i wyneb i lawr ymhellach ar hyd y traeth.
Roedd y dymestl yn ystod y prynhawn a chyda’r nos ar y 23ain o Ebrill 1947 mor ffyrnig fel y dechreuodd y Samtampa dorri’n ddarnau’n syth, gan hollti’n ddwy’n gyntaf ac yna’n dair wrth i donnau enfawr ei tharo a’i thaflu o gwmpas. Roedd hi wedi’i dryllio’n llwyr o fewn dwy awr.

Mae nifer y bywydau a gollwyd yn dangos mor drychinebus oedd y llongddrylliad hwn. Bu farw pob un o’r 39 aelod o griw’r Samtampa, a phob un o’r wyth dyn a oedd ar fwrdd y bad achub, Edward, Prince of Wales. Yn yr adroddiadau papur newydd, nodwyd bod llawer o’r cyrff wedi’u gorchuddio ag olew. Roedd y trigolion lleol wedi parcio eu ceir ar hyd y lan ac wedi cynnau eu lampau mawr i roi mwy o olau i’r rheiny a oedd yn ceisio achub y llongwyr.
Cafodd holl aelodau criw’r Samtampa, yr oedd llawer ohonynt yn hanu o ogledd-ddwyrain Lloegr, eu claddu ym Mhorth-cawl. Claddwyd holl griw’r Edward, Prince of Wales yn y Mwmbwls.
Yn ôl y Daily Telegraph, y diwrnod mwyaf garw ym Mhrydain ers mis Medi 1946 oedd y diwrnod ofnadwy hwnnw pan yrwyd y Samtampa ar y creigiau. Roedd tymhestloedd wedi achosi dinistr ar hyd arfordir Prydain. Llong arall a ddrylliwyd bryd hynny oedd HMS Warspite, llong ryfel 31,000 tunnell a aeth ar lawr ger Marazion yng Nghernyw yn ystod ei mordaith olaf o Portsmouth i’r Clud.

O roi trychineb y Samtampa yn ei gyd-destun ehangach, gwelir mai hwn oedd yr unig long o 100 tunnell gros neu fwy a ddrylliwyd yn nyfroedd Cymru ym 1947. Yn ôl cofnodion Lloyd’s, cafodd cyfanswm o 200 llong o 100 tunnell gros neu fwy eu colli yn ystod 1947, yr oedd 32 ohonynt yn hwylio o dan faner Brydeinig.
Mae Coflein yn rhoi’r cyfeirnod SS 78661 79492 ar gyfer y llongddrylliad. Mae lluniau yn Casgliad Ffotograffiaeth y Llu Awyr Brenhinol y Comisiwn Brenhinol yn dangos olion y llong yn glir ger Trwyn y Sger.


Mor drwm oedd y colledion o ran bywydau, fel bod y digwyddiad hwn yn parhau’n un o’r trychinebau gwaethaf yn nyfroedd Cymru yn ystod y cyfnod diweddar.
Mae stori’r Samtampa yn dangos maint y trallod a’r gofid a guddir gan ystadegau oer y cofrestri colledion. Wrth i’r prosiect hwn i gyfoethogi’r cofnodion am longddrylliadau Cymru fynd yn ei flaen, cawn ein hatgoffa’n aml i gadw’r elfen ddynol hon mewn cof.
Gan Meilyr Powel
07/21/2020