
Sut y gwnaeth lluniadu adeiladau fframwaith coed fy ysbrydoli! gan Charles Green, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Pan ddechreuais weithio gyntaf, cefais y pleser mawr o weithio i’r Comisiwn Brenhinol pan oedd yn cael ei reoli gan y diweddar Peter Smith. Ar y pryd, roedd Peter yn paratoi’r argraffiad diwygiedig o Houses of the Welsh Countryside (sydd ar gael fel eLyfr ).
Cafodd ei gyhoeddi gyntaf ym 1975 i ddathlu Blwyddyn Treftadaeth Bensaernïol Ewrop, a dyfarnwyd Medaliwn Alice Davis Hitchcock i’r llyfr am y gwaith gorau ar hanes pensaernïol a gawsai ei gyhoeddi’r flwyddyn honno.

Cynhwyswyd llawer o adeiladau fframwaith coed hanesyddol yn yr argraffiad newydd, gan gynnwys Plas Newydd (Rhiwabon), Althrey Hall (Wrecsam) a Threwern Hall (ger Y Trallwng). Yn ogystal ag ymweld â’r enghreifftiau gwych hyn o bensaernïaeth ddomestig hanesyddol gyda chydweithwyr o’r Comisiwn Brenhinol, fe gefais y fraint o’u lluniadu. Rydw i’n cofio bod gwaith adnewyddu sylweddol yn cael ei wneud ar Blas Newydd ar y pryd a bod fframwaith coed cyfan yr adeilad yn y golwg. Wrth edrych ar yr ysgerbwd o goed, cefais fy syfrdanu gan fedrusrwydd y crefftwyr ganrifoedd yn ôl, maint anhygoel y gwaith, a’r swm enfawr o goed a ddefnyddiwyd yn yr adeiladwaith.

Adeiladau Fframwaith Coed Gwyrdd
Ar benwythnos yn 2014, fe fynychais ysgol undydd i wirfoddolwyr a oedd yn helpu i adeiladu canolfan ymwelwyr newydd Coedwig Gymunedol Long Wood ger Llambed, lle rhoddais gynnig ar wneud hoelion pren (pegiau) derw ar gyfer y ffrâm goed. Yn gyntaf, buom yn defnyddio haearn hollti i dorri’r boncyffion derw yn hoelion pren bras, ac yna, gan ddefnyddio mainc nadddu, fe gafodd y rhain eu clampio a’u siapio’n sgwâr â chyllell ddeugarn.
Cael Ysbrydoliaeth o Adeiladau Fframwaith Coed
Rydw i’n meddwl mai’r profiadau hyn a fu’n ysbrydoliaeth i mi adeiladu storfa foncyffion o goed flynyddoedd wedyn. Roeddwn wedi lluniadu adeiladau fframwaith coed yn y gorffennol, ac yn gwybod sut roedd hoelion pren yn cael eu defnyddio i ddal uniadau mortais a thyno wrth ei gilydd, felly fe ofynnes i mi fy hun, pa mor anodd y gall hi fod i adeiladu storfa fframwaith coed? Heb unrhyw gynlluniau, a dim ond delwedd o’r hyn roeddwn i eisiau ei adeiladu (yn fy mhen), roeddwn mewn tipyn o benbleth pan gyrhaeddodd y pren Cedrwydd Coch newydd ei lifio. Ond fe es i ati i fesur a llifio, ac i naddu’r uniadau. Fe ges i’r holl ddeunyddiau’n lleol, gan gynnwys hen lechi Cymreig a gafodd eu hail-dyllu gen i a’u cysylltu wrth estyll y to â hoelion copr.


Dros y blynyddoedd mae’r coed wedi sychu, gan dynnu’r uniadau mortais a thyno a’r hoelion pren yn dynn at ei gilydd. Mae’r storfa foncyffion wedi hindreulio’n dda ac wedi dod yn adeiladwaith deniadol wedi’i ysbrydoli gan yr hanes a’r dreftadaeth adeiledig o’n cwmpas, ac efallai ei bod yn rhan o’r dreftadaeth honno erbyn hyn.
Adeiladau Fframwaith Coed yn yr Archif
Mae archif y Comisiwn Brenhinol yn gartref i gasgliad enfawr o luniadau a chynlluniau o adeiladau domestig o bob rhan o Gymru, wedi’u harolygu a’u cofnodi gan dîm arolygu’r Comisiwn.
Sut bydd y lluniadau o archif y Comisiwn Brenhinol yn eich ysbrydoli chi?
Gan Charles Green, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
07/03/2020