Job Vacancy – Youth Project Co-ordinator

Swydd Wag – Cydlynydd Prosiect Ieuenctid

Cydlynydd Prosiect Ieuenctid – Prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig?’

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn chwilio am Gydlynydd Prosiect Ieuenctid ar gyfer prosiect ‘Treftadaeth Ddisylw: Ceredigion Gyfyngedig?’

Prosiect cyffrous yw hwn sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc a fydd yn galluogi pobl rhwng 11 a 25 oed a’u cymunedau i gofnodi, dehongli, rheoli a diogelu safleoedd treftadaeth o’r 19eg a’r 20fed ganrif yng Ngogledd Ceredigion drwy gyfrwng gweithgareddau archaeolegol a chreadigol.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n cyllido’r prosiect ac mae’n cael ei arwain gan Cadw.

Mae’r swydd yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc a phartneriaid i drefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect, ac ymgymryd â thasgau gweinyddol.

Swydd Wag – Cydlynydd Prosiect Ieuenctid
Swydd Wag – Cydlynydd Prosiect Ieuenctid

Cydlynydd Prosiect Ieuenctid

  • Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
    Yr oriau gwaith yw 18.5 awr yr wythnos i’w gweithio dros 2.5 diwrnod yr wythnos ar delerau hyblyg yn dibynnu ar anghenion y prosiect.
  • Penodiad tymor penodedig hyd fis Tachwedd 2020.
  • Cyflog: £24,415 (pro rata) y flwyddyn
  • Dyddiad cau: 3 Tachwedd 2019 am 5pm

I drafod y rôl a’r prosiect yn anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Williams, ffôn: 01970 621237, e-bost: angharad.williams@cbhc.gov.uk Mae’r manylion llawn, y ffurflen gais a dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Comisiwn: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd

10/08/2019

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets