
Swydd Wag – Cydlynydd Prosiect Leuenctid
Cydlynydd Prosiect Ieuenctid ar gyfer prosiect ‘Treftadaeth nas Cerir: Ceredigion Cyfyngedig?’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri
- Rhan-amser 2.5 diwrnod yr wythnos (18.5 awr)
- Penodiad tymor penodedig hyd fis Medi 2020
- Cyflog: £23,400 (pro rata)y flwyddyn yn codi i £26,400 (pro rata)
- Dyddiad cau: 13 Awst 2017 am 5pm
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn chwilio am Gydlynydd Prosiect Ieuenctid ar gyfer prosiect archaeoleg cymunedol newydd wedi ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Bydd y Cydlynydd Prosiect Ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect archaeoleg gymunedol ‘Treftadaeth nas Cerir?’ sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i arwain gan Cadw. Partneriaid Cadw yn y prosiect yw’r Comisiwn Brenhinol, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Powys ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am brosiect ‘Treftadaeth nas Cerir: Ceredigion Gyfyngedig?’ prosiect cyffrous wedi’i arwain gan bobl ifanc a fydd yn galluogi pobl rhwng 11 a 25 oed a’u cymunedau i gofnodi, dehongli, rheoli a diogelu safleoedd treftadaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yng Ngogledd Ceredigion drwy gyfrwng gweithgareddau archaeolegol a chreadigol.
Mae’r swydd yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc, mentoriaid, partneriaid a rhanddeiliaid, trefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect, ac ymgymryd â thasgau gweinyddol ac adrodd fel rhan o dîm prosiect mewnol y Comisiwn Brenhinol a’r gweithgor Treftadaeth nas Cerir ehangach.
Mae’r gallu I gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
I drafod y rôl a’r prosiect yn anffurfiol, cysylltwch â:
Louise Barker, ffôn: 01970 621212, e-bost: louise.barker@cbhc.gov.uk neu
Sue Billingsley, ffôn: 01970 621228, e-bost: sue.billingsley@cbhc.gov.uk
Mae’r manylion llawn, y ffurflen gais a dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Comisiwn: Swyddi Gwag
07/17/2017