
Swydd Wag – Cynorthwyydd Cofnodion Digidol
Cynorthwyydd Cofnodion Digidol:
- 37 awr yr wythnos
- Tymor penodedig am 12 mis
- Cyflog: £17,200 y flwyddyn (£19,240 o 1 Ebrill 2018)
- Dyddiad cau: 5pm ar 11 Chwefror 2018
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn dymuno penodi Cynorthwyydd Cofnodion Digidol i gatalogio a mynegeio ei awyrluniau a’i setiau data prosiect. Swydd amser-llawn ar gytundeb tymor penodedig o ddeuddeg mis yw hon.
Mae’r manylion llawn, y ffurflen gais a dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Comisiwn: Swyddi Gwag
01/22/2018