Swydd Wag – Cynorthwyydd Llyfrgell ac Ymholiadau

A oes gennych ddiddordeb brwd yn hanes a threftadaeth Cymru ac yng ngwaith y Comisiwn Brenhinol?

Os oes, rydym ni’n chwilio am Gynorthwyydd Llyfrgell ac Ymholiadau i’n helpu i wasanaethu cwsmeriaid sy’n ceisio gwybodaeth o archif a llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae’r gwaith yn cynnwys helpu defnyddwyr ein Gwasanaeth Ymholiadau, yn ymwelwyr ac ymholwyr o bell, a chyfrannu at redeg ein llyfrgell gyhoeddus arbenigol. Gall y dyletswyddau fod yn gorfforol drwm gan eu bod yn cynnwys symud cofnodion o’r archif ac yn ôl.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon gan fod angen ymdrin â’r cyhoedd.

Cynorthwyydd Llyfrgell ac Ymholiadau

  • Amser-llawn: 37 awr yr wythnos
  • Cyflog: £20,500 yn codi i £23,830 y flwyddyn (yn disgwyl dyfarniad cyflog).

Dyddiad cau: 5pm ar 6 Rhagfyr 2021

Mae manylion pellach a phecyn gwneud cais ar gael yn: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd

Os hoffech drafod y swydd hon yn anffurfiol, cysylltwch â Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth.  Ffôn 01970 621210 neu e-bost penny.icke@rcahmw.gov.uk.

11/09/2021

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x