
Swydd Wag – Cynorthwyydd Ymchwil Arforol

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dymuno penodi Cynorthwyydd Ymchwil Arforol i weithio ar y prosiect “Gwneud y Cysylltiad: Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru”.
Prif nod y prosiect yw hybu adnoddau digidol Sefydliad Cofrestr Lloyd’s drwy eu cysylltu â’r data am longddrylliadau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sydd ar gael i’r cyhoedd ar-lein drwy Coflein, porth ar-lein y Comisiwn Brenhinol.
Prif bwrpas y swydd yw cysylltu’r cofnodion am longddrylliadau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru â’r Cofnodion am Golledion (Casualty Returns) y mae Sefydliad Cofrestr Lloyd’s wedi’u rhoi ar-lein, a hybu’r cofnodion hyn drwy roi sgyrsiau i’r cyhoedd mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru a thrwy anfon postiadau cyfryngau cymdeithasol rheolaidd.

Cynorthwyydd Ymchwil Arforol
- Penodiad cyfnod penodedig chwe-mis amser-llawn yw hwn sy’n dechrau ym mis Ebrill 2020.
- Cyflog: £20,000 y flwyddyn
- Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 23 Chwefror 2020
Gellir cael manylion llawn a ffurflen gais yma: Swydd Wag – Cynorthwyydd Ymchwil Arforol
04/02/2020