
Swydd Wag – Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
- Amser-llawn
- Parthaol
- Cyflog: £17,200 y flwyddyn yn codi i £21,500
- Dyddiad cau: 3 Gorffennaf 2017
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell amser-llawn i’n helpu i ddarparu i’r cyhoedd wybodaeth a ddelir yn archif a llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae’r gwaith yn cynnwys helpu defnyddwyr ein Gwasanaeth Ymholiadau, mewn person ac o bell, a chyfrannu at redeg ein llyfrgell gyhoeddus arbenigol.
Gall y dyletswyddau fod yn gorfforol drwm gan eu bod yn cynnwys symud cofnodion o’r archif ac yn ôl.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon oherwydd bod angen ymdrin â’r cyhoedd.
Dylid dychwelyd ffurflenni drwy e-bost i: sue.billingsley@cbhc.gov.uk neu i:
Y Rheolwr Adnoddau Dynol,
CBHC,
Ffordd Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion. SY23 3BU.
Cewch chi’r manylion llawn a ffurflenni cais yma: Swyddi Gwag
06/06/2017