Swydd Wag – Rheolwr Adnoddau Dynol

Ydych chi’n Rheolwr Adnoddau Dynol profiadol sydd â diddordeb mewn treftadaeth? Os ydych, mae’r Comisiwn Brenhinol yn chwilio am Reolwr AD amser-llawn.

Dyma gyfle gwych i chi ymarfer a meithrin eich sgiliau AD gyda sefydliad bach, cyfeillgar, dynamig, ac uchel ei gyflawniadau. Rolau arbenigol sydd gan y mwyafrif o’n staff ac maent hwy’n hynod fedrus a hyblyg ac yn angerddol am eu gwaith.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd ac o leiaf dair blynedd o brofiad perthnasol. Byddwch hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol ag ychydig iawn o oruchwyliaeth a bydd gennych ymrwymiad cryf i fentrau cydraddoldeb a chynhwysiad.

Swydd ddiddorol ac eang ei chwmpas yw hon sy’n cael effaith uniongyrchol ar waith pob dydd y Comisiwn, ac mae’n gofyn am gyfrannu a dylanwadu ar lefel rheolaeth strategol.

Sefydliad dwyieithog yw’r Comisiwn ac mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Byddwch felly’n gallu siarad Cymraeg neu’n barod i ddilyn gwersi. Darperir hyfforddiant.

Rheolwr Adnoddau Dynol – Band D/Uwch Swyddog Gweithredol

  • Amser-llawn: 37 awr yr wythnos – ystyrir trefniadau gwaith hyblyg a pheth gweithio o bell.
  • Cyflog: £31,120 i £38,160 y flwyddyn ynghyd â buddion.
  • Dyddiad cau: 5pm ar 27 Chwefror 2022

Ewch i: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd, i gael mwy o wybodaeth am y swydd a’r sgiliau a phriodoleddau y mae eu hangen, ac i wneud cais. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Os hoffech drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â Sue Billingsley, Rheolwr AD, drwy ffonio 01970 621228 neu e-bostio sue.billingsley@cbhc.gov.uk

01/27/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x