
Swydd Wag – Rheolwr Adnoddau Dynol
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol amser-llawn parhaol. Sefydlwyd y Comisiwn ym 1908 ac mae ganddo rôl genedlaethol flaenllaw o ran datblygu a hybu dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru.
Dyma gyfle gwych i chi ymarfer a meithrin eich sgiliau AD gyda sefydliad bach, cyfeillgar, dynamig, ac uchel ei gyflawniadau. Rolau arbenigol sydd gan y mwyafrif o’n staff ac maen nhw’n hynod fedrus a hyblyg ac yn angerddol am eu gwaith.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster mewn pwnc sy’n gysylltiedig ag AD a/neu gryn dipyn o brofiad AD. Bydd gennych y gallu i weithio’n annibynnol ac i drafod, annog, dylanwadu a meithrin perthnasoedd effeithiol. Bydd gennych hefyd ymrwymiad cryf i fentrau cydraddoldeb a chynhwysiad a byddwch yn hyderus yn rhoi hyfforddiant a chyflwyniadau dwyieithog.
Swydd ddiddorol ac eang ei chwmpas yw hon sy’n cael effaith uniongyrchol ar waith pob dydd y Comisiwn, ac mae’n gofyn am gyfrannu a dylanwadu ar lefel rheolaeth strategol.
Sefydliad dwyieithog yw’r Comisiwn ac felly mae’r gallu i siarad a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Rheolwr Adnoddau Dynol
- Amser-llawn: 37 awr yr wythnos – ystyrir trefniant gwaith hyblyg
- Cyflog: £30,600 i £37,410 y flwyddyn mewn pedair cynyddran flynyddol (yn disgwyl dyfarniad cyflog)
Dyddiad cau: 5pm ar 5 Rhagfyr 2021
Gellir cael manylion llawn a ffurflen gais yma: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd
Os hoffech drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â Sue Billingsley, Rheolwr AD, drwy ffonio 01970 621228 neu e-bostio sue.billingsley@rcahmw.gov.uk
11/04/2021