
Swydd Wag – Rheolwr Gwasanaethau Ar-lein
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn chwilio am Reolwr Gwasanaethau Ar-lein amser-llawn i reoli ei wasanaethau ar-lein.
Sefydlwyd y Comisiwn ym 1908 ac mae ganddo rôl arweiniol o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth bensaernïol, adeiledig ac arforol Cymru.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad proffesiynol ar lefel briodol ar gyfer y rôl, sgiliau dadansoddi a dehongli da, a phrofiad o gyflawni prosiectau datblygu ar-lein arloesol o fewn amgylchedd rheoli prosiectau cydnabyddedig.
Rheolwr Gwasanaethau Ar-lein
Swydd gyffrous a diddorol yw hon sy’n cael dylanwad ac effaith uniongyrchol ar bresenoldeb ar-lein y Comisiwn.
Corff dwyieithog yw’r Comisiwn ac mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Felly bydd gennych rai sgiliau siarad Cymraeg neu byddwch chi’n fodlon cymryd gwersi. Darperir hyfforddiant.
- Amser-llawn: 37 awr yr wythnos (byddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n chwilio am drefniadau gwaith hyblyg)
- Cyflog: £31,210 y flwyddyn yn codi i £38,160 mewn tair cynyddran flynyddol (ynghyd â buddion). Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
- Dyddiad cau: 5pm ar 7 Mawrth 2022
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, ar 01970 621205 neu drwy e-bost david.thomas@cbhc.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
02/09/2022