
Swydd Wag – Swyddog Enwau Lleoedd
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn chwilio am aelod staff amser-llawn parhaol newydd i weithio ar restr newydd o Enwau Lleoedd Cymru. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r Comisiwn lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru a bydd y Swyddog Enwau Lleoedd yn rhan allweddol o’r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lunio a chynnal y rhestr, ateb ymholiadau am enwau lleoedd Cymru a hybu gwaith y Comisiwn ar enwau lleoedd.
Swyddog Enwau Lleoedd
- Amser-llawn
- Parhaol
- Cyflog: £23,400 y flwyddyn yn codi i £26,400
Dyddiad cau: Dydd Gwener 3 Mawrth 2017 am 5pm
I drafod y rôl a’r prosiect yn anffurfiol, cysylltwch â David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, ffôn 01970 621205, e-bost david.thomas@cbhc.gov.uk
Cewch chi’r manylion llawn a ffurflenni cais yma: Swyddi Gwag
Manylir ymhellach ar y rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn: https://cbhc.gov.uk/darganfod/rhestr-o-enwau-lleoedd-hanesyddol/
01/02/2017