
Swydd Wag – Swyddog Geomateg
Swyddi cyffrous newydd ym maes Arolygu ac Ymchwilio
Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1908. Mae’n gyfrifol am yr archif genedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru ac am wneud gwaith ymchwil yn y maes hwnnw. Fel y cyfryw, mae gennym rôl arweiniol o ran sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol. Mae ein tîm Arolygu ac Ymchwilio, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yn cynnwys ymchwilwyr arbenigol sy’n gweithio ym meysydd archaeoleg, archaeoleg ddiwydiannol, adeiladau a phensaernïaeth hanesyddol, archaeoleg arforol ac arolygu o’r awyr ac rydym yn dymuno cryfhau’r tîm drwy lenwi swydd amser-llawn barhaol newydd.
Swyddog Geomateg
Bydd gan ddeiliad y swydd rôl ganolog yn y tîm. Bydd yn gweithio’n agos gyda’n hymchwilwyr arbenigol i ddarparu arbenigedd a chymorth geomatig. Bydd yn gweithio ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud arolygon o safleoedd archaeolegol, henebion ac adeiladau hanesyddol mewn amrywiaeth o dirweddau ac amgylcheddau.
- Cyflog £25,860 i £29,430 y flwyddyn (ynghyd â buddion)
- 37 awr yr wythnos (ystyrir trefniadau gwaith hyblyg)
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 6 Mawrth 2022.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Louise Barker, Uwch Ymchwilydd (Archaeoleg) ar 01970 621212, e-bost: louise.barker@cbhc.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
02/08/2022