
Swydd Wag – Swyddog Technoleg Gwybodaeth
Swydd yn Uned Busnes Corfforaethol y Comisiwn Brenhinol yw hon. Mae’r Uned yn adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd/Prif Weithredwr ac mae’n gyfrifol am bum math gwahanol o weithgarwch: Llywodraethu Corfforaethol a Rheoli Risg, Rheolaeth Ariannol, Rheolaeth Adnoddau Dynol, Rheolaeth Gweithrediadau, a Rheolaeth Technoleg Gwybodaeth.
Fel aelod o’r Tîm TG, bydd gan y Swyddog TG rôl allweddol o ran sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei amcanion strategol drwy helpu i ddatblygu, rheoli a chefnogi isadeiledd TGCh y Comisiwn.
Swyddog Technoleg Gwybodaeth
- Amser-llawn: 37 awr yr wythnos (byddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n chwilio am drefniadau gwaith rhan-amser neu hyblyg)
- Cyflog: £25,860 y flwyddyn yn codi i £29,430 mewn dwy gynyddran flynyddol (ynghyd â buddion); penodir ar waelod y raddfa fel rheol
- Dyddiad cau: 5pm ar 5 Ebrill 2022
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â: Chris Nicholas, Rheolwr TG, ar 01970 621249, e-bost chris.nicholas@cbhc.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
03/22/2022