
Swydd Wag – Uwch Ymchwilydd (Arforol)
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dymuno penodi Uwch Ymchwilydd (Arforol), swydd allweddol yn ei dîm Arolygu ac Ymchwilio.
Swydd barhaol yw hon. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfoethogi a chynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy arolygu ac ymchwilio i archaeoleg arforol ar hyd arfordir Cymru, ac am roi cyngor arbenigol i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ac i gynllunwyr yn y sector amgylchedd hanesyddol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad uniongyrchol o arolygu arforol, gan gynnwys yn y parth rhynglanw, a phrofiad o synthesu a chyhoeddi yn y maes gwaith hwn ac o reoli a defnyddio data o arolygon arforol arbenigol. Rydym yn chwilio’n arbennig am rywun a all weithio’n effeithiol fel rhan o dîm i gwblhau prosiectau a chyflawni amcanion.
Rhaid i ddeiliad y swydd fod wedi’i leoli/lleoli yng Nghymru a gallu dod i’r swyddfa ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb pan fo angen.Gan fod y Comisiwn yn sefydliad sy’n gweithio yng Nghymru, mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd hon naill ai’n gallu siarad Cymraeg neu, os nad yw’n gallu, ei fod/bod yn fodlon ymrwymo i ddilyn gwersi gyda’r bwriad o gyrraedd y lefel angenrheidiol ar gyfer y swydd (lefel 3 ar Fframwaith Asesu Sgiliau Cymraeg y Comisiwn Brenhinol). Darperir hyfforddiant a thelir amdano, a rhoddir amser i ffwrdd.
Graddfa gyflog: £30,600 i £37,410 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
Manylion Pellach
Gellir cael manylion pellach a ffurflen gais yma: Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 1 Rhagfyr 2020
18/09/2020