
Swydd Wag – Ymchwilydd Adeiladau
Swyddi cyffrous newydd ym maes Arolygu ac Ymchwilio
Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym 1908. Mae’n gyfrifol am yr archif genedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru ac am wneud gwaith ymchwil yn y maes hwnnw. Fel y cyfryw, mae gennym rôl arweiniol o ran sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol. Mae ein tîm Arolygu ac Ymchwilio, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yn cynnwys ymchwilwyr arbenigol sy’n gweithio ym meysydd archaeoleg, archaeoleg ddiwydiannol, adeiladau a phensaernïaeth hanesyddol, archaeoleg arforol ac arolygu o’r awyr ac rydym yn dymuno cryfhau’r tîm drwy lenwi swydd amser-llawn barhaol newydd.
Buildings Investigator
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda’n Huwch Ymchwilydd ar gyfer adeiladau hanesyddol ar dasgau ymchwilio, arolygu a dehongli yn gysylltiedig â sawl gwahanol fath o adeilad ar hyd a lled Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys arolygu adeiladau sydd mewn perygl a chefnogi prosiectau ymchwil thematig y Comisiwn, sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar addoldai ac ar dreftadaeth adeiledig yr 20fed ganrif.
- Cyflog £25,860 i £29,430 y flwyddyn (ynghyd â buddion)
- 37 awr yr wythnos (ystyrir trefniadau gwaith hyblyg)
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 6 Mawrth 2022.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) ar 01970 621219, e-bost: susan.fielding@cbhc.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
02/08/2022