Swyddi Gwag (3) – Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
Rheolwr Prosiect
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
- Rhan-amser 18.5 awr yr wythnos
- Penodiad tymor penodedig hyd fis 31 Rhagfyr 2019
- Cyflog: £29,100 (pro rata)y flwyddyn yn codi i £34,750 (pro rata)
- Dyddiad cau: 5pm ar 10 Rhagfyr 2017
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dymuno penodi Swyddog Prosiect – 18.5 awr yr wythnos – ar gyfer prosiect partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar aberth y llongwyr a fu’n hwylio ar hyd arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Prosiect dwy flynedd yw ‘Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan’ a fydd yn ategu’r llu o brosiectau a sefydlwyd i goffáu’r Rhyfel Mawr ar y tir. Bydd yn rhoi ar waith ymchwil wedi’i arwain gan ysgolion a chymunedau ar themâu’r Rhyfel Mawr ar y Môr. Bydd y gweithgaredd ymgysylltu hwn, a gweithgareddau tebyg eraill, yn cael eu cyflwyno drwy’r rhwydwaith o amgueddfeydd ac archifdai yng Nghymru.
Bydd y Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol a’r cyrff sy’n rhoi grantiau i sicrhau y caiff y prosiect ei weithredu, ei weinyddu a’i reoli’n effeithiol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithredu’r Cynllun Gweithgaredd, am systemau monitro ac adrodd ar gyfer rheoli’r prosiect, gan gynnwys cofrestr risg y prosiect, ac am oruchwylio rhaglenni gwaith dau Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y prosiect.
I drafod y rôl a’r prosiect yn anffurfiol, cysylltwch â
Deanna Groom, ffôn: 01970 621217, e-bost: deanna.groom@cbhc.gov.uk
Mae’r manylion llawn, y ffurflen gais a dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Comisiwn: Swyddi Gwag
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol (2 swydd)
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
- Amser-llawn
- Penodiad tymor penodedig hyd fis 31 Rhagfyr 2019
- Cyflog: £23,400 (pro rata)y flwyddyn yn codi i £26,400 (pro rata)
- Dyddiad cau: 5pm ar 10 Rhagfyr 2017
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dymuno penodi dau Swyddog Ymgysylltu Cymunedol amser-llawn ar gyfer prosiect partneriaeth newydd a fydd yn canolbwyntio ar aberth y llongwyr a fu’n hwylio ar hyd arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Prosiect dwy flynedd yw ‘Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan’ a fydd yn ategu’r llu o brosiectau a sefydlwyd i goffáu’r Rhyfel Mawr ar y tir. Bydd yn rhoi ar waith ymchwil wedi’i arwain gan ysgolion a chymunedau ar themâu’r Rhyfel Mawr ar y Môr. Bydd y gweithgaredd ymgysylltu hwn, a gweithgareddau tebyg eraill, yn cael eu cyflwyno drwy’r rhwydwaith o amgueddfeydd ac archifdai yng Nghymru.
Bydd y ddau Swyddog Ymgysylltu Cymunedol yn gyfrifol am gyflawni tasgau a nodir yng Nghynllun Gweithgaredd y prosiect sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion.
Byddant yn sefydlu perthynas waith effeithiol ar raddfa leol gyda sefydliadau allweddol megis amgueddfeydd ac archifdai sy’n cadw gwybodaeth ac arteffactau’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr ar y Môr, a hefyd yn pennu, datblygu a hyrwyddo amrywiaeth eang o weithgareddau, gan weithio’n agos â’r canolfannau hyn i ategu a datblygu mentrau sydd eisoes ar y gweill.

11/21/2017