Sychder ledled Cymru yn datgelu mwy o henebion archaeolegol coll

Wrth i’r sychder ar draws Cymru barhau, mae mwy a mwy o safleoedd archaeolegol newydd sydd wedi hen ddiflannu yn dod i’r golwg mewn caeau o gnydau sy’n aeddfedu a glaswelltir sych. Mae arolygu a thynnu ffotograffau o holl ranbarthau Cymru yn gofyn am oriau maith yn yr awyren i Toby a’r peilot. Mae’r holl hediadau yn cychwyn o Faes Awyr Hwlffordd yn Sir Benfro a bydd yr awyren yn glanio ym meysydd awyr Caernarfon, y Trallwng neu hyd yn oed Caerloyw i godi tanwydd er mwyn estyn y cyrchoedd i bob cwr o Gymru.

Mae rhannau o ogledd Cymru yn eithriadol o sych, gyda’r canlyniad bod olion cnydau helaeth sy’n datgelu crugiau o’r Oes Efydd ac aneddiadau cynhanesyddol i’w gweld ar hyd a lled Penrhyn Llŷn. Mae mynwent o grugiau sgwâr sydd newydd ei darganfod yn ne Gwynedd yn fath prin iawn o heneb yng Nghymru.

Yn ne Cymru mae cnydau cynnar o wenith bron wedi aeddfedu, sy’n golygu bod olion archaeolegol a welwyd wythnos yn ôl ar fin diflannu. Mewn mannau eraill mae gan gnydau

diweddarach ychydig o wythnosau eto i aeddfedu ond maen nhw eisoes yn dangos olion cnydau ‘gwyrdd ar wyrdd’ aneddiadau cynhanesyddol. Cafwyd darganfyddiad annisgwyl iawn ym Mro Morgannwg lle mae sychder difrifol mewn anheddiad cynhanesyddol hysbys wedi datgelu olion cnydau fila Rufeinig a rhagfuriau addasedig; gwyddom am filâu Rhufeinig eraill a godwyd o fewn aneddiadau cynhanesyddol, er enghraifft, yn Whitton Lodge a Trelisi, ond enghraifft newydd yw hon.

Meddai Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd o’r Awyr: ‘Dydw i ddim wedi gweld amodau fel hyn ers i mi ddod yn gyfrifol am hedfan archaeolegol y Comisiwn Brenhinol ym 1997. Mae’r archaeoleg newydd rydym ni’n ei gweld yn anhygoel. Bydd y gwaith brys yn yr awyr yn awr yn arwain at fisoedd o ymchwil yn y swyddfa yn ystod misoedd y gaeaf i fapio a chofnodi’r safleoedd rydym wedi’u gweld a datgelu eu gwir arwyddocâd.’

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Cliciwch yma i chwiliwch Coflein am olion cnydau yng Nghymru

 

1 – Lliwiau tebyg i ddiffeithwch ar hyd Afon Menai ger Maes Awyr Caernarfon, Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

1 – Lliwiau tebyg i ddiffeithwch ar hyd Afon Menai ger Maes Awyr Caernarfon, Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

 
Oriel Ôlion-Cnydau: Cliwiau o dan y Dirwedd
 

2 – Olion cnydau mynwent fawr o grugiau o’r Oes Efydd ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

2 – Olion cnydau mynwent fawr o grugiau o’r Oes Efydd ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

3 – Olion crasu adeiladau Rhufeinig yn dangos caer Rufeinig Caerhun yn Nyffryn Conwy (Hawlfraint y Goron CBHC)

3 – Olion crasu adeiladau Rhufeinig yn dangos caer Rufeinig Caerhun yn Nyffryn Conwy (Hawlfraint y Goron CBHC)

▶ http://www.coflein.gov.uk/en/site/95640/details/canoviumkanovium-roman-military-settlement-caerhun

 

4 – Olion cnydau helaeth llociau cynhanesyddol mewn glaswelltir cras ar Benrhyn Llŷn (Hawlfraint y Goron CBHC)

4 – Olion cnydau helaeth llociau cynhanesyddol mewn glaswelltir cras ar Benrhyn Llŷn (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

5 – Olion cnydau aneglur ond digamsyniol crugiau sgwâr o’r Oesoedd Canol cynnar, darganfyddiad newydd, de Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

5 – Olion cnydau aneglur ond digamsyniol crugiau sgwâr o’r Oesoedd Canol cynnar, darganfyddiad newydd, de Gwynedd (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

6 – Tirwedd gras Ynys Enlli (Hawlfraint y Goron CBHC)

6 – Tirwedd gras Ynys Enlli (Hawlfraint y Goron CBHC)

▶ http://www.coflein.gov.uk/en/site/402783/details/bardsey-islandynys-enlli

 

7 – Olion cnydau lloc cynhanesyddol mawr ym Mro Morgannwg, gyda sylfeini aneglur yr hyn sy’n edrych fel fila Rufeinig y tu mewn iddo (Hawlfraint y Goron CBHC)

7 – Olion cnydau lloc cynhanesyddol mawr ym Mro Morgannwg, gyda sylfeini aneglur yr hyn sy’n edrych fel fila Rufeinig y tu mewn iddo (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

8 – Fferm o’r Oes Haearn ger Hendy-gwyn, Sir Gâr (Hawlfraint y Goron CBHC)

8 – Fferm o’r Oes Haearn ger Hendy-gwyn, Sir Gâr (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

9 – Fferm o’r Oes Haearn newydd ei darganfod ar arfordir Ceredigion (Hawlfraint y Goron CBHC)

9 – Fferm o’r Oes Haearn newydd ei darganfod ar arfordir Ceredigion (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

10 – Stopio am danwydd a chinio ym Maes Awyr Caernarfon yn awyren Cessna 4-sedd FlyWales (Hawlfraint y Goron CBHC)

10 – Stopio am danwydd a chinio ym Maes Awyr Caernarfon yn awyren Cessna 4-sedd FlyWales (Hawlfraint y Goron CBHC)

 

Mewn lluniau: Casgliad o 28 Lluniad Diddorol o Henebion

 

07/11/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x