
Tair Chwedl Arswydus o’r Archif ar gyfer Nos Galan Gaeaf
Fe fuom ni’n edrych drwy ein harchifau’r wythnos hon am rai o’n cofnodion mwyaf iasol ar gyfer Nos Galan Gaeaf. Roedd yn sicr yn iasoer yn ein storfeydd ond y rheswm am hynny mae’n debyg yw bod y tymheredd yno yn cael ei reoli!
Croeso i’n dewis cyntaf, Ffowndri Tubal Cain yng Nghaerdydd – allwch chi weld rhywbeth annaearol yn y llun hwn?

Ymddangosodd y ddrychiolaeth hon ar un o’r cofnodion ffotograffig olaf sydd gennym o Ffowndri Tubal Cain, sydd wedi’i dymchwel erbyn hyn. Roedd y ffowndri yn Tyndall Street, Caerdydd a chafodd ei sefydlu rhwng 1869 a 1871. Yn nes ymlaen, yn yr ugeinfed ganrif, roedd yn cael ei galw’n Penarth Industrial Services Ltd.
Ar gyfer ein hail ddewis, fe symudwn i Sir y Fflint a’r adeilad mae pobl yn honni yw’r ‘Tŷ Mwyaf Aflonydd yng Nghymru’. Croeso i Blas Teg. Mae llu o straeon ysbryd am y plasty. Hoffech chi fyw yn yr adeilad mawreddog hwn?

Cafodd Plas Teg ei gomisiynu ym 1610 gan Syr John Trevor AS, syrfëwr llongau’r Frenhines. Credir mai Robert Smythson oedd y pensaer. Yn fewnol mae’r tŷ wedi’i adfer yn llwyr yn ddiweddar, a’r unig nodweddion gwreiddiol sydd ar ôl yw’r grisiau, rhai pyrth ac un lle tân. Ond mae tu allan yr adeilad wedi aros yr un fath fwy neu lai.
Ein dewis olaf yw llun o gae yng Nghas-gwent. Beth allai ystyr y patrwm diddorol hwn fod?

10/31/2019