The group gathered in one of the settlements on the island, Hut 20 at the Wick.

Taith Gerdded Archaeolegol ar Ynys Sgomer

Yn dilyn 6 blynedd o waith ar Ynys Sgomer gan y Comisiwn Brenhinol, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerdydd, roedd yn wych gweld y canlyniadau ar daith ddiweddar ar hyd yr ynys, wedi’i threfnu gan Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, i weld yr olion archaeolegol a hanesyddol.

Dros y blynyddoedd rydym wedi dysgu na ddylid disgwyl cyrraedd yr ynys ar y cynnig cyntaf, ac ni fu’r daith hon yn eithriad gan i ni orfod canslo’r dyddiad posibl cyntaf oherwydd bod gwyntoedd cryf o’r gogledd yn ei gwneud hi’n amhosibl i ni groesi. Ond y diwrnod wedyn roedd heulwen braf ac awyr las ac am fwy na 5 awr buom yn arwain grŵp o gerddwyr ar hyd yr ynys i weld safleoedd archaeolegol pwysig a thrafod pwy fu’n byw a ffermio yma ers y dyddiau cynharaf.

Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy ac yn daith y gobeithiwn wneud eto yn y blynyddoedd i ddod.

Chwiliwch ar-lein am ‘Skomer Archaeology’ i ddarganfod mwy.

Ymgasglodd y grŵp yn un o aneddiadau’r ynys, Cwt 20 yn y Wick.

Ymgasglodd y grŵp yn un o aneddiadau’r ynys, Cwt 20 yn y Wick.

 

Pen Sgomer: ai terfyn cae cynhanesyddol neu res o gerrig sydd yma?

Pen Sgomer: ai terfyn cae cynhanesyddol neu res o gerrig sydd yma?

 

Arweinwyr y daith oedd Toby Driver a Louise Barker, Uwch Ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol.

Arweinwyr y daith oedd Toby Driver a Louise Barker, Uwch Ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol.

11/05/2017

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x