Taith i’r Gorffennol: mae gwefan newydd yn gwahodd twristiaid o Ewrop i ddarganfod treftadaeth Cymru drwy lygaid eu rhagflaenwyr

Mae’n bleser gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyhoeddi bod gwefan amlgyfrwng gyffrous newydd sy’n hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw. Mae Taith i’r Gorffennol, sydd ar gael mewn pedair iaith, yn gwahodd twristiaid Ewropeaidd heddiw i ddarganfod trysorau treftadaeth ysblennydd ac amrywiol Cymru. Bydd naw llwybr thematig a chyfres o gynhyrchion digidol wedi’u hysbrydoli gan hanesion eu rhagflaenwyr yn rhoi cyfle i’r ymwelydd modern ymgolli yn ein hadeiladau a thirweddau hanesyddol.

Mae twristiaid o Ffrainc a’r Almaen wedi tyrru i Gymru ers canol y ddeunawfed ganrif, rhai i chwilio am hafan ramantaidd, rhai i ddwyn cyfrinachau diwydiannau mwyaf arloesol y byd, ac eraill i geisio noddfa rhag y rhyfeloedd ar dir mawr Ewrop. O Gownt Herman von Pückler-Muskau i Carl Carus, meddyg llys Brenin Saxony, neu’r anturwraig Madame Stéphanie de Genlis, cafodd llawer ohonynt eu hysbrydoli i ysgrifennu disgrifiadau manwl ac atgofus o’u teithiau. Mae’r rhain yn cynnwys disgrifiadau o’r bobl, safleoedd hanesyddol, adeiladau a diwydiannau. Cafodd hanesion eu teithiau, a gyhoeddwyd mewn teithlyfrau, dyddiaduron a llythyrau, eu dwyn ynghyd gan Brifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Phrifysgol Abertawe o dan y prosiect Teithwyr Ewropeaidd i Gymru diweddar, gan roi golwg newydd i ni ar sut yr oedd teithwyr o gyfandir Ewrop yn edrych ar Gymru.

Mae grant Cyllid Dilynol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi galluogi Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau, y Comisiwn Brenhinol a Chroeso Cymru i weddnewid yr hanesion hyn, nad oedd fawr neb yn gwybod amdanynt gynt, yn brofiadau ar-lein cyffrous drwy ddefnyddio’r technolegau digidol diweddaraf. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cyfuno ei arbenigedd ym maes dehongli digidol ag adnoddau cyfoethog ei archifau i greu cyfres o orielau delweddau, ffotograffau 3D animeiddiedig a ffilmiau fideo.

Gyda chymorth technoleg Realiti Rhithwir, gall pobl o bedwar ban byd yn awr weld y tu mewn i adfeilion rhamantaidd Abaty Tyndyrn a gweld sut y byddai wedi edrych 150 o flynyddoedd yn ôl. Gall muriau pensyfrdanol o uchel ac awyrgylch hudolus yr abaty yng ngolau’r lleuad gael eu profi mewn amrywiaeth o fformatau Realiti Rhithwir.

Mae ffilm amlgyfrwng fer am Ferthyr Tudful yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adrodd hanes yr ymwelwyr o Ffrainc a’r Almaen. Mae’r ffilm yn eu dangos yn rhyfeddu at wyrthiau diwydiannol gweithfeydd haearn Dowlais a Chyfarthfa ar adeg pan oedd Merthyr yn hawlio ei lle fel dinas ddiwydiannol fwyaf Ewrop. I gyd-fynd â’u storïau mae nenlinellau a diwydiannau dramatig y dref yn cael eu hail-greu mewn 3D, ac mae ffotograffau hanesyddol animeiddiedig yn dangos sut yr oedd y dref yn edrych bryd hynny.

Caiff defnyddwyr y wefan eu gwahodd gan deithiau 360 gradd gigapicsel cydraniad uchel i ddarganfod mwy am rai o henebion mwyaf trawiadol Cymru, fel Castell Penrhyn, Castell Cas-gwent a Mynydd Parys, a rhoddwyd bywyd newydd i ffotograffau stereosgopig hanesyddol gyda chymorth meddalwedd animeiddio fodern. Hefyd, mae hediad-drwy o’r cwmwl pwyntiau sydd wedi ei seilio ar sganiau laser o Gapel Gwenffrewi yn Nhreffynnon wedi cael ei wneud.

Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, ‘Mae’r wefan yn datgelu beth yr oedd ymwelwyr o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn meddwl o Gymru. Roedden nhw’n chwilio am ei hynafiaethau enwog a’i hadfeilion pictiwrésg ond roedd ganddyn nhw lawn cymaint o ddiddordeb yn ei thechnoleg arloesol a’i safleoedd diwydiannol dyfodolaidd. Mae gweld Cymru drwy eu llygaid nhw yn ein dysgu ni i weld Cymru heddiw mewn ffordd wahanol.’

Mae’r holl adnoddau ar gael yn Ffrangeg ac Almaeneg, yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, er mwyn hyrwyddo Cymru hanesyddol fel cyrchfan fodern i dwristiaid o bedwar ban byd.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@rcahmw.gov.uk neu ar 01970 621 219.

 

Lluniau:

  1. Abaty Tyndyrn o’r Profiad Rhithwir
  2. Abaty Tyndyrn yn y nos o’r Profiad Rhithwir
  3. Glwad y Ffwrneisi a’r Flamau: Merthyr Tudful yn y 1800au
  4. Llyfygell Castell Penrhyn o teithiau Gigapixel Rhyngweithiol
  5. Llun o’r sganio laser o Gapel Gwenfrewi

 

Abaty Tyndyrn o’r Profiad Rhithwir

1. Abaty Tyndyrn o’r Profiad Rhithwir

 

Abaty Tyndyrn yn y nos o’r Profiad Rhithwir

2. Abaty Tyndyrn yn y nos o’r Profiad Rhithwir

 

Glwad y Ffwrneisi a’r Flamau: Merthyr Tudful yn y 1800au

3. Glwad y Ffwrneisi a’r Flamau: Merthyr Tudful yn y 1800au

 

Llyfygell Castell Penrhyn o teithiau Gigapixel Rhyngweithiol

4. Llyfygell Castell Penrhyn o teithiau Gigapixel Rhyngweithiol

 

Llun o’r sganio laser o Gapel Gwenfrewi

5. Llun o’r sganio laser o Gapel Gwenfrewi

05/24/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x