Dr Rita Singer, Professor Carol Tully, Dr Heather Williams, Scott Lloyd and Susan Fielding

Teithwyr Ewropeaidd: Golwg newydd ar dwristiaeth hanesyddol yng Nghymru

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru i greu adnodd digidol newydd sy’n cofnodi disgrifiadau Teithwyr Ewropeaidd o Gymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn eu cyfuno â thechnolegau arloesol i ddarparu ‘rhith ymweliadau’.

Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i arwain gan Brifysgol Bangor, ac yn adeiladu ar y gwaith a wnaed rhwng 2013 a 2017 ar Deithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010, prosiect ar y cyd rhwng ymchwilwyr Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a’u partneriaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac o fewn y sector amgueddfeydd yng Nghymru. Daethpwyd o hyd i oddeutu 400 o ddisgrifiadau o ymweliadau â Chymru gan deithwyr Ewropeaidd, a fu’n ysgrifennu rhwng 1750 a 2010, bedair gwaith yn fwy na’r disgwyl.

Commission images

“Fe ddaethom ni o hyd i ddisgrifiadau nad oeddynt wedi cael eu hastudio o’r blaen a oedd yn rhoi syniad i ni o sut mae pobl eraill wedi meddwl am Gymru,” meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Carol Tully o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor. “Mae rhai o’r disgrifiadau mewn dyddiaduron neu lythyrau, a doedd dim bwriad gan yr awduron i gyhoeddi llawer ohonynt. Mae amrywiaeth y pynciau a drafodir yn dangos bod gan bobl ddiddordeb hirsefydlog yng Nghymru. Nid oedd yr holl ymwelwyr yn dwristiaid yn yr ystyr modern, roedd rhai’n ffoaduriaid neu ar deithiau busnes, ond maen nhw i gyd yn darparu darluniau o Gymru gan ymwelwyr o genhedloedd eraill Ewrop,” ychwanegodd.

Bydd y prosiect dilynol yn defnyddio’r testunau hyn i greu teithiau’n seiliedig ar fapiau ar themâu penodol, fel bod y deunydd yn hygyrch i gynulleidfa gyhoeddus newydd ac i helpu i hyrwyddo Cymru i farchnadoedd ledled Ewrop fel cyrchfan modern i dwristiaid. Mae llawer o’r testunau yn Ffrangeg ac Almaeneg, ac mae Ffrainc a’r Almaen eisoes yn farchnadoedd pwysig i ddiwydiant twristiaeth Cymru, ond ceir hefyd ddisgrifiadau gan deithwyr o Wlad Pwyl, Hwngari, Sgandinafia a’r Weriniaeth Tsiec.

Nododd yr Athro Tully hefyd:
“Mae’r deunydd dan sylw yn cwmpasu cyfnod o newid mawr yn nhirwedd, diwylliant a threftadaeth Cymru a bydd ymwelwyr yr oes hon yn gallu ‘profi’ y newidiadau hynny drwy lygaid eu rhagflaenwyr. Bydd hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar Gymru i genhedlaeth newydd o deithwyr o Ewrop, ac yn taflu goleuni newydd ar ganfyddiad pobl o Gymru ar hyd y blynyddoedd ar gyfer ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o’r byd.”

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn creu cyfres o adnoddau digidol arloesol, gan gynnwys ail-greadau ac animeiddiadau digidol, teithiau gigapicsel, a phrofiadau Realiti Estynedig a Realiti Rhithwir, gan alluogi pobl i ail-fyw profiadau’r teithwyr Ewropeaidd. Caiff y rhain eu hategu gan ddeunydd gweledol trawiadol o gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ei gasgliadau hanesyddol a’i gasgliadau modern o ffotograffau a dynnwyd ar y ddaear ac o’r awyr.

Caiff y wefan ei gwesteia gan Brifysgol Bangor a’i hyrwyddo’n fyd-eang gan Croeso Cymru. Cafodd y Comisiwn Brenhinol ei ddewis i weithio mewn partneriaeth â Bangor oherwydd ei brofiad o wneud deunydd treftadaeth yn hygyrch a deniadol drwy ddefnyddio adnoddau digidol. Hefyd fe gyfoethogir y prosiect gan y doreth o ddeunydd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys lluniau hanesyddol o’r rhannau o Gymru a ddenodd yr ymwelwyr Cyfandirol.

Nododd Christopher Catling, Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol:
“Nid golygfeydd hardd oedd unig ddiddordeb teithwyr i Gymru yn y 18fed a’r 19eg ganrif; roedd diwydiant ac arloesedd technolegol Cymru yr un mor ddiddorol iddyn nhw. Dyma beth sy’n gwneud y cofnodion hyn mor arbennig – maen nhw’n rhoi cyfres o ddisgrifiadau llygad-dyst i ni o Gymru ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Rydw i’n gobeithio y caiff teithwyr modern eu hysbrydoli gan yr hanesion hyn i wneud yr un teithiau â’r teithwyr hanesyddol a gweld Cymru drwy eu llygaid nhw.”

I gael mwy o wybodaeth am y llinyn arloesedd digidol cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@cbhc.gov.uk neu i gael gwybodaeth gyffredinol am y prosiect cysylltwch â’r Athro Carol Tully yn c.tully@bangor.ac.uk

06/13/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x