
Teml Shri Swaminarayan, Caerdydd
Oeddech chi’n gwybod bod Cymru’n gartref i un o demlau Hindŵaidd harddaf y DU? Mae hi yn Merches Place, Caerdydd nid nepell o Stadiwm y Principality.
Wrth gerdded tuag at y deml, i lawr strydoedd o dai teras a adeiladwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tynnir eich llygaid at olygfa egsotig – tri meindwr gwyn yn codi’n uchel uwchben y toeon o’u cwmpas. Mae’r meindyrau (shikar) blaen-aur hyn yn nodweddiadol o bensaernïaeth temlau gogledd India, ac maen nhw wedi’u lleoli uwchben y cysegrfeydd (sinhashan) yn y deml islaw. Mae’r gair shikar, sy’n deillio o shikhara, Sansgrit ar gyfer ‘copa mynydd’, yn cynrychioli mynyddoedd yn ymgyrraedd at y ffurfafen, dolen gyswllt rhwng anfeidredd y nefoedd a’r byd daearol islaw.
Delwedd trwy garedigrwydd Teml Swarminaryan Shree Caerdydd Rhaid defnyddio craen casglu ffrwythau i gael mynediad i’r shikhars a’u glanhau i gadw eu purdeb claerwyn.
Yn draddodiadol mae tri meindwr neu gryndo yn dynodi bod mandir yn un pwysig – cyfieithir y gair hwn yn aml fel ‘teml’ ond ei wir ystyr yw ‘man lle mae bodau dynol a duwiau yn rhyngweithio’. Bydd addolwyr yn ymweld â’r mandir yn rheolaidd, gan olchi eu dwylo yn y cyntedd yn gyntaf, dringo’r grisiau wedyn ac yna dynnu eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r brif neuadd. Yma fe fyddant yn syrthio ar eu hyd o flaen y cysegrfeydd fel arwydd o ostyngeiddrwydd cyn sefyll i gyflawni’r ddefod a elwir yn darshan, gair sy’n golygu ‘i weld’ yn llythrennol.
Y ffurf ddwysaf ar addoli ymhlith yr Hindwiaid yw’r berthynas wyneb yn wyneb hon rhwng duw a dilynwr. Drwy edrych ar lygaid a wyneb y duw, gall y duw eich gweld chi a gallwch chi dderbyn cyfran o nerth a bendithion y bod dwyfol.
Mae delwedd o Shri Swaminarayan fel dyn ifanc yng nghysegrfa ganolog mandir Caerdydd. Mae wedi’i wisgo mewn dillad lliwgar o sidan drudfawr, wedi’u brodio ag edau aur ac arian, ac mae ei arlant wedi’i addurno â gemau gwerthfawr a roddwyd gan ei ddilynwyr. Mae colofnau a chanopi arian y gysegrfa wedi’u haddurno â blodau lotws, sy’n symboleiddio prydferthwch bregus a byrhoedledd bywyd a hefyd y rhinwedd ysbrydol ‘datgysylltiad’, gan fod y blodyn lotws yn codi ar ei goesyn hir yn uchel uwchben y llaid sy’n ei gynnal.

Ganwyd (neu ‘ymgnawdolwyd’ fel y byddai Hindwiaid yn ei ddweud) Shri Swaminarayan (ystyr ‘Shri’ yw ‘bendigedig’ a ‘Swami’ yw’r teitl a roddir i feistr ar athroniaeth Hindŵaidd) ar 3 Ebrill 1781 a bu farw (neu fe gafodd ei ryddhau o’i ffurf ddynol) ar 1 Mehefin 1830. Mae’n cael ei fawrygu fel sant ac fel sylfaenydd ffurf ar Hindŵaeth a ddaeth yn boblogaidd yn Gujarat ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Byddai ei ddilynwyr yn dweud iddo gael ei ymgnawdoli i gyflawni pwrpas penodol: yn yr achos hwn, i wasanaethu fel diwygiwr a gadwodd gredoau ac arferion gorau Hindŵaeth o’r cyfnod canoloesol ond a luniodd ffurf newydd ar Hindŵaeth a oedd yn fwy addas i’r India fwy modern a ddatblygodd, yn rhannol, dan ddylanwad a rheolaeth Prydain. Mae’r grefydd wedi ffynnu ers hynny: mae ganddi 20 miliwn o aelodau drwy’r byd a phrin iawn yw’r pentrefi, trefi a dinasoedd yn nhalaith orllewinol fawr Gujarat nad oes ganddynt gysegrfa neu ddilynwyr.
Mae cysegrfeydd y prif seintiau a duwiau yn y pantheon Hindŵaidd ar y naill ochr a’r llall i’r gysegrfa ganolog. Ar y dde mae Hanuman, y duw â phen mwnci. Yn ôl y Ramayana (yr epig lle cofnodir hanes y duwiau) fe achubodd ef Shiva rhag cythreuliaid a chredir ei fod felly yn amddiffyn pobl a’u heiddo rhag drygioni. Mae’n rhannu ei gysegrfa gyda Surya, duw yr haul, sy’n chwalu tywyllwch ac anwybodaeth ac yn ffynhonnell pob gwybodaeth a bywyd . Ar y chwith mae Ganesh, y duw â phen eliffant, mab poblogaidd iawn Shiva sy’n gysylltiedig â lles corfforol a ffyniant, ynghyd â’r duwiau Shiva a Parvati, gŵr a gwraig, y mae ganddynt briodoleddau niferus ond sy’n gysylltiedig yma â bywyd cartref a bywyd teuluol dedwydd.
Delwedd trwy garedigrwydd Teml Swarminaryan Shree Caerdydd
Nid oes gan y fersiwn Swaminarayan o Hindŵaeth ddefodau sefydlog ac mae’n datblygu’n barhaus. Mae ei dilynwyr yn gwahaniaethu rhwng smriti (traddodiadau a drosglwyddir o genhedlaeth i genhedlaeth ac sy’n gallu newid) a shruti, craidd athroniaeth Hindŵaidd sy’n gyson ac yn ddigyfnewid. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod Saesneg yn cael ei defnyddio ar gyfer darlithiau a darlleniadau cyhoeddus o’r ysgrythurau Hindŵaidd yn ogystal â Gujarati, a bod gan bwyllgor y deml aelodau ifanc yn ogystal â henaduriaid – mae’r aelodau hŷn yn darparu cyngor a gwybodaeth am draddodiadau Hindŵaidd, tra bo’r aelodau iau yn dod ag angerdd ac egni – er enghraifft, ymrwymiad cynyddol i gynaliadwyedd amgylcheddol ym mhopeth y mae cymuned y deml yn ei wneud.
Nid man addoli yn unig yw’r mandir felly. Mae hefyd yn ganolfan gymdeithasol gyda neuadd chwaraeon, ystafelloedd dosbarth, ardal i gymdeithasu, ceginau, a neuadd amlbwrpas a ddefnyddir ar gyfer dathliadau cymunedol, fel yr ŵyl ddiolchgarwch Sharad Punam ddiweddar, a ddethlir ar noson leuad lawn yng nghanol mis Hydref a lle offrymir blodau i Krishna, Shiva a Parvati, a gŵyl liwgar Diwali, a gynhelir ar ddechrau Tachwedd i ddathlu dechrau Blwyddyn Newydd yr Hindwiaid ac i gofio’r rhoddion a gyflwynwyd i’r ddaear gan Lakshmi, y dduwies sy’n gysylltiedig â chyfoeth a ffyniant.

Sylfaenwyd mandir Caerdydd gan bobl o ranbarth Kutch yn Gujurat a ddaeth i’r ddinas tua’r flwyddyn 1964 i weithio yn ei ffatrïoedd a’i gweithfeydd dur. Un o’r cyflogwyr mawr bryd hynny oedd gwaith dur GKN, olynydd Gwaith Haearn Dowlais a oedd wedi symud o Ferthyr i Gaerdydd ym 1890. Ar y dechrau fe fyddai’r addolwyr yn ymgynnull mewn tai preifat neu neuaddau eglwys i ddathlu gwyliau crefyddol a digwyddiadau eraill. Ym 1978 fe ffurfiwyd pwyllgor i godi arian i brynu adeilad parhaol, a sefydlwyd y deml gyntaf mewn hen argraffdy a fuasai’n synagog cyn hynny.
Wedi i’r gymuned o Hindwiaid fynd yn rhy fawr i’r adeilad hwn fe brynwyd yr adeilad presennol – Clwb Gwyddelig gynt – ar yr ochr arall i’r stryd. Agorodd y deml hon ar 25 Medi 1993 ond yn 2005 fe benderfynodd pwyllgor y deml y dylid gwneud i’r adeilad edrych yn debycach i deml draddodiadol. Felly mae’r adeilad a welwn ni heddiw yn rhyw fath o hybrid – mae ystafelloedd modern yr hen adeilad yn lapio o amgylch y neuadd ganolog newydd a’i thri shikar, a gynlluniwyd yn yr arddull pensaernïol Indo-Mughal a oedd yn boblogaidd yn Gujarat yn ystod oes Shri Swaminarayan. Cymerodd oddeutu 6,000 o bobl ran yn yr orymdaith drwy ganol y ddinas ar Ddydd Sadwrn 22 Medi 2007 i ddathlu agor y mandir palasaidd.

Gobeithiaf y bydd yr hanes cryno hwn yn eich ysgogi i ddysgu mwy am mandir Caerdydd ac am arferion a bywyd beunyddiol Hindwiaid Cymru. Gellir cael llawer mwy o wybodaeth ar wefan y deml: www.swaminarayan.wales.
Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr).
11/15/2021