Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 gan Richard Suggett

“Dyma drysor o arolwg o faes yn hanes diwylliant Cymru sydd wedi’i esgeuluso ers tro byd, ac mae’n un sydd i’w groesawu’n fawr.” O’r Rhagair gan Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint.

Cafodd y llyfr dwyieithog hwn ei ysgrifennu (efallai bod ‘datgloi’ yn air gwell) yn ystod y cyfnod clo a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, pan oedd pob llyfrgell, archifdy ac addoldy ar gau. Mae’n bosibl na fydd rhai eglwysi a chapeli, a oedd eisoes yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd cynulleidfaoedd bach neu’r angen am waith trwsio drud, yn ailagor eto. Byddai hyn yn golled enfawr i ni i gyd, p’un a ydym yn addolwyr ai peidio, fel y mae’r llyfr hwn yn ceisio ei ddangos drwy olrhain hanes eglwys y plwyf ar sail un o’i nodweddion mwy byrhoedlog, ond rhyfeddol o barhaol weithiau, sef delweddau, testunau ac addurn peintiedig.

Mae’r llyfr yn dechrau drwy drafod y cyfnod canoloesol diweddar pan ailadeiladwyd llawer o eglwysi plwyf yng Nghymru, ac yna symudir ymlaen i ystyried natur a phwrpas croglenni a muriau peintiedig y tu mewn i’r eglwysi newydd eu hadnewyddu hyn. Disgrifir nifer fawr o beintiadau ‘darn gosod’ a chyflwynir astudiaethau achos o furiau peintiedig syfrdanol eglwys Llancarfan (gan Jane Rutherford) ac eglwys Llandeilo Tal-y-bont (gan Tony Parkinson). Mae eglwys Llandeilo Tal-y-bont wedi’i hailgodi yn Sain Ffagan ac ail-grëwyd y murluniau i roi i ymwelwyr ‘ysgytwad yr hen’.

Yna mae stori addurno peintiedig yn parhau y tu hwnt i’r Diwygiad i mewn i gyfnod pan gafodd eglwysi eu gweddnewid yn weledol drwy ddymchwel croglenni a pheintio dros furluniau. Wrth i’r ddelwedd beintiedig gael ei disodli gan y gair peintiedig, fe drowyd tu mewn amryliw eglwysi yn ddu a gwyn yn bennaf, heblaw am ambell sblash o liw ar gerrig coffa peintiedig a’r Arfbais Frenhinol – mynegiant gweledol pwerus o’r berthynas newydd rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth.

Mae arysgrifau peintiedig yr eglwys ôl-Ddiwygiad o gryn ddiddordeb ac mae’r ‘dewis frawddegau’, yn ogystal â mynegi teimladau crefyddol, yn dangos yn glir bwysigrwydd a statws Cymraeg ysgrifenedig yn yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg. Mae paentwyr yn dod i’r amlwg fel personoliaethau wedi’u henwi yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae hunangofiant mydryddol Thomas Jones o Henffordd ac Aberhonddu (cyhoeddwyd ym 1641) yn gofnod difyr ac annisgwyl o fyd ansicr ac anturus yr arlunydd gwlad a addurnai eglwysi.

Nid oedd gan arysgrifau le mor amlwg mewn eglwysi erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Roedd eglwysi bellach yn llecynnau cymdeithasol llai agored, gydag eisteddleoedd yn llenwi’r lloriau a cherrig coffa ar hyd y muriau. Collodd y muriau a’r nenfydau eu lliw hefyd wrth i nenfydau plastr gael eu gosod, gan guddio cyplau’r hen doeon agored, ac i haen ar ben haen o wyngalch gael eu peintio ar y muriau, y tu mewn ac y tu allan. Pan ailddarganfuwyd lliw’r eglwys ganoloesol gan bersoniaid diwylliedig yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe gawsant eu syfrdanu. Ond achosodd gryn ddadlau hefyd wrth i eglwyswyr anghytuno â’i gilydd ynghylch priodoldeb lliw a delweddau mewn eglwysi.

Ysgrifennwyd y llyfr gan Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) yn y Comisiwn Brenhinol. Mae’n manteisio ar y cofnodion am furluniau a wnaed gan staff y Comisiwn ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig Tony Parkinson, y diwygiwyd ei restr o addurniadau mur yng Nghymru ar gyfer y llyfr hwn. Mae lluniadau a ffotograffau yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na disgrifiadau amleiriog. Mae Dylan Roberts wedi darparu sawl lluniad ail-greu sy’n cyfleu lliwiau gwreiddiol ac effaith weledol peintiadau sydd wedi hen bylu. Ychydig cyn iddo ymddeol, llwyddodd Iain Wright i oresgyn llawer o heriau technegol ac anawsterau o ran mynediad i dynnu lluniau sy’n rhan annatod a phrydferth o’r llyfr. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’n partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Cadw, am ddarparu lluniau hanesyddol. Mae yna 275 o ddelweddau anhygoel yn y llyfr, llawer ohonynt heb eu cyhoeddi o’r blaen.

Rhag-archebu

Dyma’r anrheg Nadolig berffaith i lawer un! Bydd y llyfr ar gael o Ddydd Llun, 22 Tachwedd 2021 a gellir ei archebu ymlaen llaw o’n gwefan nawr. Peidiwch ag anghofio, gall Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol hawlio disgownt o 10% ar ein holl gyhoeddiadau. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Nicola Roberts/Marisa Morgan. Ffôn: 01970 621248.

Richard Suggett, Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800 / Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800 (CBHC, 2021). xii + 366 o dudalennau a 275 o ddarluniau. Pris £29.95.
Rhagair gan y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams

Delweddau

  1. Clawr y llyfr
  2. Rhosyn y Tuduriaid yn Eglwys Cybi Sant, Caergybi, Môn. Darlun gan Dylan Roberts yn dangos y lliwiau wedi’u hadfer.
  3. Y Saith Pechod Marwol yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan, Bro Morgannwg.
  4. Memento mori yn Eglwys Sant Eilian, Llaneilian, Môn.
  5. Arfbais Frenhinol Siarl II dyddiedig 1661 yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, Sir Ddinbych.
  6. Tudalen deitl ‘Mercy Triumphing over Judgement’ gan Thomas Jones (Llundain, 1641).
Clawr y llyfr: Temlau Peintiedig Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800
1. Temlau Peintiedig Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800
Rhosyn y Tuduriaid yn Eglwys Cybi Sant, Caergybi, Môn. Darlun gan Dylan Roberts yn dangos y lliwiau wedi’u hadfer.
2. Rhosyn y Tuduriaid yn Eglwys Cybi Sant, Caergybi, Môn. Darlun gan Dylan Roberts yn dangos y lliwiau wedi’u hadfer.
Y Saith Pechod Marwol yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan, Bro Morgannwg.
3. Y Saith Pechod Marwol yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan, Bro Morgannwg.
Memento Mori yn Eglwys Sant Eilian, Llaneilian, Môn.
4. Memento mori yn Eglwys Sant Eilian, Llaneilian, Môn.
Arfbais Frenhinol Siarl II dyddiedig 1661 yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, Sir Ddinbych.
5. Arfbais Frenhinol Siarl II dyddiedig 1661 yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, Sir Ddinbych.
Tudalen deitl Mercy Triumphing over Judgement gan Thomas Jones (Llundain, 1641).
6. Tudalen deitl ‘Mercy Triumphing over Judgement’ gan Thomas Jones (Llundain, 1641).

Pob delwedd: hawlfraint CBHC.

11/12/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x