
TG a The a Bisgedi – Cael y gorau o Brydain oddi Fry
Dyddiad y digwyddiad: 2-4pm, Dydd Gwener 21, Medi 2012
Lleoliad: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,
Plas Crug, Aberystwyth, SY23 1NJ
Sesiwn ddi-dâl yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol fel rhan o’r digwyddiad Age Cymru, i feithrin eich hyder a’ch sgiliau wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd; bydd yn canolbwyntio ar y Prosiect Prydain oddi Fry, casgliad ffotograffig ar-lein o awyrluniau gwych o Gymru, yr Alban a Lloegr a dynnwyd rhwng 1919 a 1953.
Bydd cyflwyniad byr i egluro’r prosiect ac yna cewch gyfle i roi cynnig ar y wefan, gofyn cwestiynau a dysgu sgiliau newydd.
Wedyn bydd te a bisgedi am ddim i bawb sy’n cymryd rhan.
Lleoedd yn gyfyngedig, i drefnu’ch lle cysylltwch â: Natasha.scullion@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621245
www.cbhc.gov.uk
13/09/2012