
‘The Matchless Orinda’, Katherine Philips (1632–1664): Hanes Cwiyr o Gymru
Os chwiliwch chi yn y Bywgraffiadur Cymreig am fanylion y bardd Katherine Philips o Aberteifi, fe welwch ei bod yn y cefndir ac y sonnir amdani fel ail wraig James Philips (1594–1675) AS, o Briordy Aberteifi. Ond roedd Katherine Philips yn fwy o lawer na hynny, ac erbyn hyn mae’n fwy adnabyddus na’i gŵr ac yn enwog yn ei rhinwedd ei hun fel y bardd benywaidd cyntaf o bwys o Brydain.
Fel bardd, mae Katherine Philips yn fwyaf adnabyddus am ei cherddi ar y thema cyfeillgarwch, a gâi eu rhannu yn ei Chymdeithas Gyfeillgarwch, sef cylch a oedd yn seiliedig ar y model a wnaed yn ffasiynol gan Henrietta Maria, gwraig Ffrengig Charles I. Roedd gan aelodau’r Gymdeithas enwau rhamantaidd, ac wrth yr enwau hynny y byddent yn adnabod ei gilydd. Enw Katherine oedd ‘Orinda’ ac enwau ei dwy ffrind agosaf o Gymru, Anne Owen (1633–1692) a Mary Aubrey, oedd ‘Lucasia’ a ‘Rosania’.
Yn 1662 teithiodd Katherine i Ddulyn lle cwblhaodd gyfieithiad o’r ddrama Pompée gan Pierre Corneille, a gafodd ei chynhyrchu’n llwyddiannus dros ben y flwyddyn ganlynol (1663) yn Theatr Smock Alley yn Nulyn a’i chyhoeddi yn nes ymlaen dan y teitl Pompey (1663). Roedd menywod eraill wedi cyfieithu neu wedi ysgrifennu dramâu, ond cyfieithiad Katherine o Pompée oedd y fersiwn cyntaf mewn odl o drasiedi Ffrangeg yn Saesneg, a’r ddrama Saesneg gyntaf i’w hysgrifennu gan fenyw a’i pherfformio ar lwyfan proffesiynol.
Yn dilyn ei marwolaeth gynnar yn 1664 oherwydd y frech wen, cafodd argraffiad awdurdodedig o’i cherddi ei gyhoeddi yn 1667 dan y teitl, Poems by the Most Deservedly Admired Mrs. Katherine Philips, the Matchless Orinda. Roedd yr argraffiad hwnnw’n cynnwys ei chyfieithiadau o waith gan awduron a oedd yn ysgrifennu yn Ffrangeg a Lladin. Wrth ysgrifennu yn Theatrum poetarum (1675) roedd Edward Phillips, nai John Milton, yn gosod Katherine Philips ymhell uwchlaw un o’i chyfoedion enwog, y dramodydd Aphra Behn, mewn rhestr o feirdd o bwys o bob cyfnod a gwlad, ac yn disgrifio Katherine fel a ganlyn: “the most applauded…Poetess of our Nation”.
Pylodd ei henw da, ond cafodd ei darganfod a’i gwerthfawrogi o’r newydd ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Mae llawer o drafod wedi bod am rywioldeb Katherine ac am natur ei cherddi. Yn ei llyfr arloesol, Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales (Seren Books, 2017), mae Norena Shopland yn esbonio fel a ganlyn: ‘regardless of Katherine’s own sexual orientation they are the first British poems which express same-sex love between women’.
Byddai Mary Aubrey (Rosania) o deulu Llantriddyd ym Morgannwg, ac Anne Owen (Lucasia) o Landshipping yn Sir Benfro, yn cael eu cyfarch yn aml yng ngherddi Katherine. Heb os, mae ei phortreadau o gyfeillgarwch menywod yn ddwys, a hyd yn oed yn angerddol. Byddai Katherine bob amser yn mynnu bod y cyfeillgarwch hwnnw’n gyfeillgarwch platonig, a byddai’n disgrifio ei chydberthnasau fel eneidiau’n cyfarfod (“meeting of souls,” fel yn y llinellau “To my Excellent Lucasia, on our Friendship”:
‘For as a watch by art is wound
To motion, such was mine;
But never had Orinda found
A soul till she found thine;
Which now inspires, cures, and supplies,
And guides my darkened breast;
For thou art all that I can prize,
My joy, my life, my rest.’
Yn ddiweddar, mae pobl wedi bod yn dyfalu a allai ei gwaith gael ei ddisgrifio fel gwaith lesbiaidd. Dyma a ddywed Norena Shopland yn ei phennod am ‘The Welsh Sappho’: ‘Katherine’s passion first for Mary Aubrey and then Anne were undeniable.’ Yn ei barn hi: ‘if written today her poems would be defined as lesbian or homoerotic, and her relationships with both women far exceed the criteria for “romantic friendship”.’ Ychwanega wedyn: ‘How far their friendships went we will never know.’
Mae cerddi a llythyrau Katherine yn aml yn cyfeirio at Aberteifi a’r cyffiniau. Bydd y sawl sy’n hoff iawn o farddoniaeth Katherine yn meddwl tybed faint o’r Aberteifi yr oedd Katherine yn gyfarwydd â hi sy’n dal i fodoli heddiw. Mae patrwm y strydoedd a ddarlunnir yng nghynllun Speed o Aberteifi (1610) yn dal yn gyfarwydd, er bod y rhan fwyaf o’r tai wedi’u hailadeiladu. Y castell yw’r nodwedd fwyaf amlwg o hyd wrth nesáu at y dref dros y bont dros afon Teifi. Mae Eglwys y Santes Fair, lle byddai Katherine wedi addoli, yn dal i sefyll. Roedd Katherine yn byw yn Nhŷ’r Priordy wrth ymyl yr eglwys. Tan yn ddiweddar, Tŷ’r Priordy oedd Ysbyty Coffa Aberteifi. Roedd yr ysbyty’n cynnwys tŷ ysblennydd a ddyluniwyd gan John Nash. Y tŷ hwn oedd yr un a godwyd yn lle tŷ Katherine. Ysgrifennodd Emily Pritchard (Olwen Powys) hanes Tŷ’r Priordy – Cardigan Priory in the Olden Days (1904) – gan honni mai seler Tŷ’r Priordy oedd seleri’r hen dŷ o’r 17eg ganrif a’r Priordy Benedictaidd cynharach. Mae’r ysbyty wedi cau erbyn hyn, a rhoddwyd caniatâd i’w droi yn fflatiau. Ni allwn ond gobeithio na fydd y datblygiad newydd yn anghofio am Katherine Philips.





02/17/2023