
The Most Glorious Prospect: garden visiting in Wales 1639-1900, Bettina Harden. Llanelli: Graffeg, 2017
Fe gyflwynir y gyfrol hyfryd hon gan Bettina Harden i rai o erddi pwysicaf Cymru trwy lygaid teithwyr dros gyfnod o ddau gant a hanner o flynyddoedd.

Mae’r ymwelwyr hyn yn cyflwyno darlun byw trwy ddyddiaduron, dyddlyfrau, llythyrau, mapiau, cynlluniau a disgrifiadau o deithiau i rai lleoedd sydd bellach wedi eu colli a gerddi sydd wedi gweld cryn dipyn o newid. Maent yn cynnwys Castell y Waun a Chastell Powys ar y Gororau, Abaty Margam a Thŷ Newton yn ne orllewin Cymru, Castell Penrhyn a Plas Tanybwlch yng ngogledd orllewin Cymru a gardd wyllt golledig Hafod yng nghanolbarth Cymru. Roedd casglu’r cynnwys ar gyfer y llyfr yn amlwg yn llafur cariad i’r awdur ac mae wedi fy annog i ymweld â’r gerddi hyn a phrofi drosof fy hun yr hyn a ysbrydolodd y teithwyr cynnar hynny i ymweld a mwynhau rhai o leoedd mwyaf syfrdanol Cymru.
Ywain Tomos
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/06/2020