
The Story of Wales: A New Beginning

Pwll Glo Big Pit, Sir Fynwy DI2006_0875 NPRN 433
Bydd y bumed raglen yng nghyfres BBC Cymru ar hanes Cymru, “The Story of Wales: A New Beginning”, yn edrych ar y mudo enfawr i gymoedd De Cymru a datblygiad y dociau yng Nghaerdydd a’r Barri yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn sgil darganfod glo rhydd yn y Rhondda. Bydd yn dangos cestyll mawreddog Caerdydd a Phenrhyn, a adeiladwyd â’r arian mawr a gynhyrchwyd gan y diwydiant glo yn y De a’r diwydiant llechi yn y Gogledd. Bydd y rhaglen hefyd yn ymdrin â chwaraeon, adloniant, corau meibion, ac ochr dywyllach diwydiannaeth – y tlodi, y damweiniau, y streiciau a’r cloi allan.
Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 5 raglen:
- Big Pit, Blaenafon
- Glofa’r Tŵr
- Dociau’r Barri
- Chwarel y Penrhyn
- Castell Penrhyn
- Castell Caerdydd
- Cofeb Evan James a James James, neu gofeb ‘Hen Wlad Fy Nhadau’
- Theatr Parc a Dâr, Treorci
- Glofa’r Universal, Senghennydd
Unwaith eto, i’r sawl sydd â diddordeb, ceir ymdriniaeth wych â’r pynciau hyn yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd: Hidden Histories, sy’n cynnwys dwy adran ardderchog ar ‘Cymdeithas Oes Fictoria’ a ‘Cymru ym Mlynyddoedd Cynnar yr Ugeinfed Ganrif’. Yn ogystal, mae ein cyhoeddiadau diweddaraf, sy’n cynnwys Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales a Cymru Hanesyddol o’r Awyr / Historic Wales From the Air, yn gwneud cyfraniad allweddol i’n dealltwriaeth o’r newidiadau cyflym yn ystod yr oes hon. Gellir cael copïau o’n holl gyhoeddiadau drwy ein siop lyfrau, ac mae disgownt arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.
10/10/2012